Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dyn o eiddo yn Amlwch

Postiwyd

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Amlwch am 3.30am y bore yma, Dydd Sul 3ydd Tachwedd.

Fe gadarnhaodd Chris Nott, rheolwr grŵp dros dro, bod dwy injan wedi ei hanfon o  Amlwch i'r llety gwarchod ym Madryn Dysw.  Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân offer anadlu i achub dyn 53 mlwydd oed.

Aethpwyd ag ef i  Ysbyty Gwynedd mewn Ambiwlans wedi iddo gael archwiliad rhagofalol yn y fan a'r lle oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.

Ni chafodd unrhyw un arall ei effeithio gan y tân, a oedd wedi ei gyfyngu i'r ystafell wely, ond fe achosodd y tân ddifrod mwg yng ngweddill yr adeilad.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen