Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgarwch rheoli’r trysorlys, ynghyd â dangosyddion darbodus Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’r adroddiad hwn yn un o ofynion y Cod Darbodus (y Cod).

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae gweithgareddau’r Awdurdod ar gyfer rheoli’r trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd. Y sefyllfa o ran benthyciadau ar 31 Mawrth 20020 oedd £30.9m, sydd o fewn y terfyn a gymeradwywyd gan yr aelodau. £16m oedd gwerth y benthyciadau byrdymor, sydd o fewn y terfyn a osodwyd o fewn y strategaeth. Nid oedd ganddo unrhyw fenthyciadau ar gyfraddau amrywiol yn ystod y flwyddyn ariannol.

ARGYMHELLIAD

Gofyn i’r Aelodau wneud y canlynol:

(i) nodi gweithgareddau rheoli’r trysorlys; a

(ii) cymeradwyo dangosyddion darbodus terfynol 2019/20.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

CEFNDIR

Mae gweithgarwch yr Awdurdod ar gyfer rheoli’r trysorlys yn cael ei reoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd perthnasol. Mae’r gofynion allweddol yn cynnwys llunio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a dangosyddion darbodus i ddangos bod y penderfyniadau ynghylch cyfalaf a benthyciadau yn rhai fforddiadwy. Rhaid i’r dogfennau hyn gael eu cymeradwyo gan yr Awdurdod cyn dechrau’r flwyddyn ariannol. Dylid cael trefniadau hefyd i fonitro ac adrodd ynghylch y dangosyddion darbodus yn ystod y flwyddyn ariannol ac adrodd ynghylch y sefyllfa alldro i’r Awdurdod.

Cafodd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019/20 ei chymeradwyo gan yr Awdurdod yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth 2019. Cafodd y dangosyddion darbodus eu hadolygu yn ystod y flwyddyn oherwydd bod y rhaglen gyfalaf wedi cael ei had-drefnu gan arwain at lai o fenthyca yn ystod y flwyddyn. Cafodd y diwygiadau hyn eu cymeradwyo gan yr Awdurdod yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2019. Dyma’r adroddiad terfynol ar gyfer 2019/20, ac mae’n nodi dangosyddion darbodus gwirioneddol y flwyddyn, ynghyd â’r sefyllfa o ran Rheoli’r Trysorlys. Mae’r adroddiad hwn yn cyd-fynd â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA.

GWYBODAETH

GWEITHGARWCH RHEOLI’R TRYSORLYS YN 2019/20          

Y Strategaeth y Cytunwyd arni ar gyfer 2019/20

Caiff y penderfyniadau o ddydd i ddydd ynghylch benthyca eu dirprwyo i’r Trysorydd, sy’n gorfod sicrhau’r ffurf fwyaf priodol ar fenthyca, gan ddibynnu ar y cyfraddau llog sy’n gyffredin ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cyfraddau sefydlog byrdymor, a allai ddarparu cyfleoedd am gostau is yn y tymor byr/canolig.

Dilynir dull pwyllog wrth fuddsoddi arian dros ben. Mae adneuon arian parod sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal cyfalaf gweithredol yn cael eu cadw gyda banciau neu gymdeithasau adeiladu. Dim ond ar gyfer buddsoddiadau mwy hirdymor y defnyddir cyfryngau eraill.

Gweithgarwch Benthyca

£30.9m oedd y ddyled fenthyciadau a oedd yn weddill ar 31 Mawrth. Cymerir benthyciadau i ariannu rhaglen gyfalaf yr Awdurdod. Yn Atodiad A, darperir dadansoddiad pellach o’r proffiliau aeddfedu.

Nodir isod y benthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel yr oedd pethau ar 31 Mawrth 2020, a £14.9m oedd y swm:

 

Sefydliad (BBGC= Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus)

Y ganran o’r holl fenthyciadau

Swm

(£)

BBGC (1 i 2 flynedd)

3.7%

1.13m

BBGC (2 i 5 mlynedd)

31.4%

9.72m

BBGC (5 i 10 mlynedd)

4.0%

1.25m

BBGC (10 mlynedd a mwy)

9.1%

2.81m

Cyfanswm gyda’r BBGC

48.2%

14.9m

Yn ystod y flwyddyn, cymerwyd un benthyciad gyda’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a hynny am £2.5m. Roedd cyfnod sefydlog o 3 blynedd i’r benthyciad, â’r gyfradd log oedd 1.6%. Mae’r portffolio benthyciadau yn cynnwys benthyciadau Rhandaliadau Cyfartal o’r Prifswm (EIP - Equal Instalment of Principal) ac o’r benthyciadau hyn, £3.066m oedd yr ad-daliadau o’r prifswm. Yn gyffredinol, fe wnaeth y benthyciadau oedd gan yr Awdurdod ostwng £0.566m o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Diwallwyd unrhyw angen am fenthyciadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn drwy gael benthyciadau byrdymor, ar gost is.

Roedd gan yr Awdurdod £16.0m mewn benthyciadau byrdymor gydag awdurdodau lleol eraill ar ddiwedd y flwyddyn, fel y nodir isod:

Sefydliad

Y ganran o’r holl fenthyciadau

Swm

(£)

Cronfa Bensiwn Swydd Gaerhirfryn

9.7%

3.0m

Cyngor Dosbarth Braintree

3.2%

1.0m

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

29.2%

9.0m

Cyngor East Riding of Yorkshire

9.7%

3.0m

Cyfanswm y Benthyciadau Byrdymor

51.8%

16m

Roedd y benthyciadau hyn yn darparu opsiwn ar gost isel i’r Awdurdod, gan mai 0.86% oedd y gyfradd log gyfartalog, sy’n cymharu’n ffafriol â’r gyfradd o 1.95% a gynigir gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i fenthyciadau am flwyddyn.

Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo 55% fel terfyn uchaf ar gyfer benthyciadau a oedd yn aeddfedu cyn pen 12 mis. Y sefyllfa ar 31 Mawrth 2020 oedd bod 52% o’r benthyciadau yn cael eu hystyried yn fenthyciadau byrdymor.

Mae Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn cadarnhau y dylai’r portffolio benthyciadau fod ag uchafswm o 35% o ddyled mewn benthyciadau amrywiol, a hyd at 100% o fenthyciadau ar gyfnod sefydlog. Yn ystod 2019/20, dim ond ar delerau cyfnod sefydlog y gwnaeth yr Awdurdod fenthyca, a hynny oherwydd y cyfraddau llog sy’n gyffredin ac er mwyn caniatáu sicrwydd.

Yn 2019/20, roedd y benthyciadau gwirioneddol £0.835m yn is na’r gofyniad cyllido cyfalaf a gymeradwywyd, a hynny oherwydd gostyngiadau pellach yn y rhaglen gyfalaf. Talwyd cyfanswm o £0.514m o log, o gymharu â’r gyllideb o £0.535m. Y gyfradd fenthya fyrdymor ar gyfartaledd yn y flwyddyn oedd 0.86%, a’r gyfradd hirdymor ar gyfartaledd oedd 2.27%. 

Buddsoddiadau

Mae’r egwyddorion sy’n llywodraethu polisi buddsoddi’r Awdurdod wedi’u cynnwys mewn Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Gynlluniad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Roedd y gweithgarwch buddsoddi yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â’r egwyddorion hyn, ac nid oedd unrhyw anawsterau hylifedd gan yr Awdurdod.

Roedd y strategaeth fuddosddi ar gyfer 2019/20, a gymeradwywyd gan yr Awdurdod ar 18 Mawrth 2019, yn cynnwys cymeradwyo’r meini prawf canlynol ar gyfer partïon i gontract:

(1) Swyddfa Rheoli Dyledion yn y Trysorlys – terfyn £5.0m

(2) Awdurdodau Lleol (ac eithrio cap ar gyfraddau) – terfyn £2.0m

(3)      Mae sgoriau da (Fitch neu gyfwerth) gan holl fanciau’r DU ac Iwerddon, a’u his-gwmnïau. Dyma’r diffiniad ar hyn o bryd: terfyn: £5m

Tymor Byr

F1

Tymor Hir

A

Sgôr Hyfywedd

Bbb

Os yw sgoriau banciau’n gostwng yn is na’r rhai sydd yn y tabl uchod, bydd y banciau hynny’n cael eu defnyddio os yw adneuon mawr yn cael eu sicrhau gan warant llywodraeth, ac os yw’r adneuon yn dod o fewn telerau’r warant.

(4) Mae £2.0m o derfyn benthyca gan Gymdeithasau Adeiladu sydd â sgôr (fel ar gyfer y sector bancio).

(5) Mae £2m o derfyn, a 9 mis o gyfyngiad amser ar y mwyaf, gan Gymdeithasau Adeiladu sydd heb sgôr ond sydd ag asedau gwerth £1 biliwn neu fwy.

Cafodd yr holl arian dros ben ei fuddsoddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ran yr Awdurdod Tân ac Achub. Balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2020 oedd £1.73m, o gymharu â £0.55m ar 31 Mawrth 2019. Roedd y balans buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn yn uchel oherwydd bod angen cynnal hylifedd gan fod ansicrwydd yn deillio o bandemig Covid 19. Er mwyn cynnal sefyllfa hylifedd yn yr Awdurdod, cafodd yr arian ei gadw gan mwyaf mewn cyfrifon galw â mynediad ar unwaith. 0.28% oedd y gyfradd gyfartalog a gafwyd ar y buddsoddiadau.

Dim (sero) oedd y gyllideb ar gyfer llog buddsoddiadau, a £0.02m oedd y llog a gafwyd mewn gwirionedd. 

Dangosyddion Darbodus

Dan y Cod Darbodus, rhaid i’r Awdurdod gymeradwyo’r dangosyddion darbodus gwirioneddol ar ôl diwedd y flwyddyn. Mae Atodiad A yn darparu atodlen o’r holl ddangosyddion darbodus sy’n orfodol. Mae’r tabl isod yn cadarnhau’r terfynau allweddol a gymeradwywyd gan yr Awdurdod, ynghyd â’r alldro ar gyfer 2019/20:

      

 

Dangosydd Diwygiedig 2019/20
 
£’000

Gwirioneddol 
2019/20
 
£’000

Sefyllfa benthyciadau

33,672

30,909

Gofyniad Cyllido Cyfalaf

33,198

31,744

Mae’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf yn dangos beth yw’r angen gwaelodol sydd ar yr Awdurdod i fenthyca am resymau cyfalaf. Yn y tymor byr, gallai’r gofyniad i fenthyca fod yn uwch na’r gofyniad cyllido cyfalaf, a hynny oherwydd effaith arian parod a buddsoddiadau. Mae’r tabl uchod yn dangos bod y sefyllfa fenthyciadau gros £0.835m yn is na’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf ar gyfer 2019/20.

Y Terfyn Awdurdodedig yw’r terfyn benthyca fforddiadwy sy’n ofynnol dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae’r tabl isod yn dangos bod yr Awdurdod, yn ystod 2019/20, wedi cadw ei fenthyciadau gros o fewn ei Derfyn Awdurdodedig.

Y Ffin Weithredol yw’r sefyllfa fenthyca a ddisgwylir yn yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn, ac mae cyfnodau pryd mae’r sefyllfa wirioneddol naill ai uwchlaw neu islaw’r Ffin yn dderbyniol ar yr amod nad yw’r Terfyn Awdurdodedig yn cael ei dorri.

 

2019/20
£’000

Dangosydd Diwygiedig – Terfyn Awdurdodedig

35,198

Dangosydd Diwygiedig – Ffin Weithredol

33,198

Y sefyllfa fenthyca uchaf yn ystod y flwyddyn

34,647

Y sefyllfa fenthyca isaf yn ystod y flwyddyn

30,908

FFRAMWAITH RHEOLEIDDIO, RISG A PHERFFORMIAD

Mae gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn yr Awdurdod yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd:

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 (y Ddeddf) yn darparu’r pwerau i fenthyca ac i fuddsoddi, yn ogystal ag yn darparu rheolaethau a therfynau ar y gweithgarwch hwn. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod terfynau, naill ai ar yr Awdurdod neu yn genedlaethol ar bob awdurdod lleol, i gyfyngu ar y swm y gellir ei benthyca (er na chafodd unrhyw gyfyngiadau eu gwneud yn 2019/20). Dan y Ddeddf, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi Canllaw ar Fuddsoddi i strwythuro a rheoleiddio gweithgareddau buddsoddi’r Awdurdod.

Mae’r Offerynnau Statudol (OS) 3239 (Cy.319) 2003, fel y’u diwygiwyd, yn datblygu’r rheolaethau a’r pwerau o fewn y Ddeddf. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ystyried Cod Darbodus CIPFA ar Gyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol wrth wneud unrhyw weithgareddau benthyca, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ystyried Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus wrth gyflawni’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys yn gyffredinol.

Mae’r Awdurdod wedi cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol uchod, sy’n cyfyngu ar y lefelau o risg sy’n gysylltiedig â’i weithgareddau rheoli’r trysorlys. Yn nodedig, gan ei fod wedi mabwysiadu a gweithredu’r Cod Darbodus a’r Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli’r Trysorlys, mae ei wariant cyfalaf yn ddarbodus, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, ac mae arferion ei drysorlys yn dangos dull sy’n ymwneud â risgiau isel.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ac amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae’r adroddiad yn sicrhau bod asedau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn cael eu prynu mewn modd doeth, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd yn y seilwaith i alluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Cyllideb - Gosodir y gyllideb bob blwyddyn ar gyfer cyllido cyfalaf, a hynny yn unol ag adroddiad y Trysorlys.
Cyfreithiol - Mae’r fframwaith rheoleiddiol wedi’i nodi ym mharagraff 18.
Staffio - Dim.
Cydraddoldebau/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Dim.
Risgiau - Buddsoddi arian dros ben – mae risg y gallai’r sefydliad ariannol lle mae arian y gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi fethu, gan golli rhan o’r prifswm a fuddsoddwyd. Fodd bynnag, un o ddibenion yr adroddiad yw lleihau’r risg hwn.

Atodiad A

 

Dangosyddion Darbodus

 

 

Dangosydd Amcangyfrifedig
2019/20
£

Gwirioneddol
2019/20
£

Gwariant Cyfalaf

2,052,649

774,721

Gofyniad Cyllido Cyfalaf 

33,198,808

31,744,235

Benthyciadau

 

33,671,579

 

30,908,922

Terfyn Awdurdodedig

35,198,808

35,198,808

Ffin Weithredol 

33,198,808

33,198,808

Cymhareb rhwng Costau Cyllido a Gwariant Net

7.83%

6.34%

Buddsoddiadau

4,920,000

1,730,000

Benthyciadau cyfraddau llog sefydlog fel % o’r Holl Fenthyciadau

100%

100%

Benthyciadau cyfraddau amrywiol fel % o’r Holl Fenthyciadau

 

0%

0%

Strwythur Aeddfedu Benthyciadau Cyfradd Sefydlog

Dan 12 mis

0% - 55%

51.8%

12 mis i 2 flynedd

0% - 45%

3.7%

2 flynedd i 5 mlynedd

0% - 45%

31.4%

5 mlynedd i 10 mlynedd

0% - 75%

4.0%

10 mlynedd a mwy

0% - 100%

9.1%

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen