Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyfarniad Cyflog y Prif Swyddogion 2020

PWRPAS YR ADRODDIAD

Gofynnir i’r Aelodau nodi a gweithredu’r trefniadau ar gyfer cytuno ar y dyfarniad cyflog i Brif Swyddogion ar gyfer 2020.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cytunir ar y dyfarniadau cyflog blynyddol i Brif Swyddogion Tân gan ddefnyddio trefniadau negodi'r cyrff cenedlaethol canlynol:

(i) Y Cydgyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer Rheolwyr Brigâd mewn Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol; a’r

(ii) Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol ar gyfer y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd.

Mae sefyllfa pob corff negodi wedi ei nodi isod:

(i) Nid yw’r  NJC wedi dod i gytundeb mewn perthynas â’r Prif Swyddog a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol ar gyfer 2020.

(ii) Mae cytundeb y JNC yn cadarnhau cynnydd o 2.75% eleni i’r Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd o 1 Ebrill 2020.

ARGYMHELLIAD

Gofynnir i’r Aelodau:

(i) nodi’r trefniadau negodi a chymeradwyo mewn perthynas â dyfarniadau cyflog y Prif Swyddogion;

(ii) cymeradwyo’r dyfarniad cyflog o 2.75% ar gyfer y Prif Swyddogion Cynorthwyol yn weithredol o 1 Ebrill 2020;

(iii) nodi sefyllfa bresennol y NJC mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol ar gyfer 2020; a

(iv) cytuno i dalu’r dyfarniad arfaethedig gyfer y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol unwaith y bydd negodiadau cenedlaethol y Cydgyngor Cenedlaethol wedi dod i ben.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR

Nid yw’r adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan yr Aelodau o’r blaen.

CEFNDIR

Prif swyddogaeth yr NJC a’r JNC yw dod i gytundeb ar fframweithiau cenedlaethol ar gyfer cyflog ac amodau Rheolwyr Brigâd a Phrif Swyddogion yn y Deyrnas Unedig. Yn GTAGC, mae’r term Prif Swyddog yn cyfeirio at swydd y Prif Swyddog Tân, y Dirprwy Brif Swyddog Tân, y Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol, y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd. Mae’r swydd Dirprwy Brif Swyddog Tân yn wag ar hyn o bryd.

Yn dilyn dyfodiad Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, diweddarwyd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014. Er mai ar gyfer awdurdodau lleol y mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau, mae rhai ohonynt yn berthnasol i awdurdodau tân ac achub.

Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth am dalu prif swyddogion. Pwrpas hyn yw sicrhau bod rhaid i unrhyw benderfyniad ynglŷn â thalu prif swyddogion (neu rai i’w penodi’n brif swyddogion) gael eu gwneud gan yr awdurdod llawn, heb y posibilrwydd o’i ddirprwyo i bwyllgor o’r awdurdod.

CEFNDIR

Y NJC ydi’r corff negodi mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol. Nid yw’r dyfarniad cyflog ar gyfer y cyfnod Ionawr 2020 ymlaen wedi ei gwblhau’n derfynol ac mae’r trafodaethau’n parhau.

Y JNC ydi’r corff negodi mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd. Cytunwyd y byddai’r dyfarniad cyflog o 2.75% yn weithredol ar 1 Ebrill 2020 sydd yn gyson â grwpiau staff ledled awdurdodau lleol. Mae copi o’r ddogfen ategol ar gael yn Atodiad A.  

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Amherthnasol.

Cyllideb

Mae darpariaeth wedi’i chynnwys yn y gyllideb ar gyfer y swyddi sy’n destun y dyfarniad cyflog cenedlaethol hwn.

Cyfreithiol

Mae’r argymhellion yn gyson â thelerau ac amodau’r contractau unigol.

Staffio

Mae’r argymhellion yn sicrhau cysondeb gyda’r Polisi Tâl a gymeradwywyd gan yr Awdurdod ym mis Mawrth 2020.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/ Y Gymraeg

Nid oes goblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Risgiau

Nid oes goblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen