Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Gwella a Llesiant 2021/22

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cadarnhau’r sail i Gynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer 2021/22.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Bob mis Mawrth, mae’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) yn cyhoeddi Cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, i nodi’r amcanion gwella a llesiant y mae wedi cytuno arnynt ac i amlinellu ei gyfraniad at eu cyflawni yn ystod y flwyddyn.

Er nad yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn pennu pa mor aml y dylid newid yr amcanion strategol sydd gan gorff cyhoeddus, disgwylir y caiff y rhain eu hadolygu bob blwyddyn, a’u newid neu eu diwygio os oes angen.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y swyddogion yn paratoi Cynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod ar gyfer 2021/22, er mwyn i’r Aelodau ei gymeradwyo’n derfynol ym mis Mawrth 2021. I wneud hyn, mae angen i’r Awdurdod gadarnhau a yw’n dymuno parhau i fynd ynglŷn â’r amcanion a fabwysiadodd ym mis Mawrth 2020, ynteu a yw am fynd ynglŷn â chyfres ddiwygiedig o amcanion.

O ystyried pa mor ddiweddar y mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu ei gyfres gyfredol o amcanion, y ffaith fod pandemig Covid-10 wedi cael effaith gyfyngol, nad oedd modd ei hosgoi, ar y cynnydd yn ystod y flwyddyn, ynghyd â’r newid sy’n debygol o ddigwydd i aelodaeth yr Awdurdod ar ôl yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022, argymhellir bod yr Awdurdod yn cario ei amcanion presennol drosodd i 2021/22.

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau’n cymeradwyo mynd ati i ddatblygu Cynllun Gwella a Llesiant drafft ar gyfer 2021/22, a bod hwnnw’n seiliedig ar barhau â chyfres gyfredol yr Awdurdod o amcanion gwella a llesiant, fel y nodir ym mharagraff 12. 

CEFNDIR

Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru gyhoeddi amcanion gwella yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ynghyd ag amcanion llesiant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dan y gyfraith, rhaid i’r Awdurdod ymdrechu i wella ei wasanaethau yn y tymor byr ac ystyried llesiant cenedlaethau o bobl yn y dyfodol yn y tymor hir. Rhaid i’r amcanion llesiant a fabwysiedir gan yr Awdurdod gyfrannu at nodau llesiant Cymru, a rhaid i’r Awdurdod fod yn gallu dangos ei fod yn cymryd pob cam rhesymol (wrth gyflawni ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion a ddatganwyd ganddo.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn datgan y caiff cyrff cyhoeddus benderfynu newid un o’u hamcanion llesiant, ond y dylai unrhyw amcanion newydd fod yn seiliedig ar y graddau y maent yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf gan y corff cyhoeddus at nodau llesiant Cymru.

Dyma saith nod llesiant Cymru: Cymru iachach; Cymru gydnerth; Cymru lewyrchus; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu; a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

I ymateb i adborth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2019, fe wnaeth yr Awdurdod fabwysiadu cyfres ddiwygiedig a helaethach o amcanion ar gyfer 2020/21 ac ymlaen, ac a oedd yn cyd-fynd yn fwy amlwg â nodau llesiant Cymru.

Dyma amcanion gwella a llesiant diwygiedig yr Awdurdod:
Amcan 1: gweithio tuag at wneud gwelliannau i iechyd, diogelwch a llesiant pobl yng Ngogledd Cymru.
Amcan 2: parhau i weithio ar y cyd i helpu cymunedau i wella eu cadernid.
Amcan 3: gweithredu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
Amcan 4: parhau i ganfod cyfleoedd i annog mwy o ymgysylltu â phobl, cymunedau, staff a rhanddeiliaid.
Amcan 5: cynnal gweithlu sy’n addas o amrywiol, cadarn, medrus, proffesiynol a hyblyg.
Amcan 6: datblygu ffyrdd o fod yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol er mwyn lleihau effaith y mae ein gweithgareddau yn ei chael ar yr amgylchedd.
Amcan 7: sicrhau bod gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn cael eu hystyried, gan gynnwys yn ystod prosesau caffael.


Mae peth hyblygrwydd yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gyrff cyhoeddus osod eu hamcanion llesiant mewn ffordd sy’n gweddu i’w rôl a’u swyddogaethau, ond y mae’r Ddeddf yn mynnu bod asesiadau’n cael eu cynnal bob blwyddyn ynghylch a yw’r amcanion llesiant hynny yn dal yn briodol ai peidio. Felly, nid oes angen adolygiad llawn o saith amcan yr Awdurdod tan ar ôl diwedd blwyddyn 2020/21.

GWYBODAETH

Yng nghyfarfodydd y Gweithgor Cynllunio yn gynnar yn 2020, bu’r Aelodau’n trafod meysydd ar gyfer cyfeiriad posibl yn y dyfodol, a buont yn canolbwyntio ar ddau faes pwnc, sef: datblygu strategaeth amgylcheddol; a’r goblygiadau posibl oherwydd y newidiadau a ddisgwylir i’r rôl orfodi sydd gan yr Awdurdod ym maes diogelwch tân.

Eleni, mae pandemig Covid-19 wedi amharu ar agweddau ar y gwaith o ddatblygu strategaeth amgylcheddol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r rhain yn ailddechrau’n raddol erbyn hyn, ac mae’r ymrwymiad polisi sydd gan Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod y sector gyhoeddus yn garbon-niwtral erbyn 2030, yn parhau.

Mae gwaith amgylcheddol yr Awdurdod eisoes yn cael sylw drwy Amcan 6, felly nid oes angen datblygu amcan newydd.

Er nad yw rôl orfodi’r Awdurdod ym maes diogelwch tân yn y dyfodol wedi ei chadarnhau eto, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau cynhwysfawr i’r gyfraith ym maes diogelwch tân, rheoliadau adeiladu a thai. Roedd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar 23 Hydref 2020 yn cadarnhau y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu nodi mewn Papur Gwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae rôl weithredu’r Awdurdod ym maes diogelwch tân yn cael sylw eisoes drwy Amcan 1 (diogelwch y cyhoedd) ac Amcan 5 (sgiliau’r gweithlu), felly nid oes angen datblygu amcan newydd.

Gellir defnyddio’r amcanion sydd gan yr Awdurdod eisoes i adrodd ynghylch ei gyfraniad at gyflawni nodau llesiant Cymru, felly nid oes angen creu amcanion newydd.

Gan gadw mewn cof:
• pa mor ddiweddar y gwnaeth yr Awdurdod fabwysiadu cyfres newydd o amcanion gwella a llesiant (yn dilyn adborth gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol);
• nad oedd modd osgoi’r ffaith fod y gweithgarwch arfaethedig eleni wedi arafu oherwydd pandemig Covid-19, er bod cynnydd da wedi cael ei wneud; ac
• y newid sy’n debygol o ddigwydd yn aelodaeth yr Awdurdod Tân ac Achub yn dilyn yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022;
nid oes rheswm i’n perswadio ar hyn o bryd fod angen diwygio’n sylfaenol, nac ehangu, cyfres yr Awdurdod o amcanion hirdymor.

Felly, cynigir bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r gwaith o ddatblygu cynllun gwella a llesiant drafft ar gyfer 2021/22 yn seiliedig ar barhau â’r amcanion gwella a llesiant sydd gan yr Awdurdod eisoes, a hynny er mwyn i’r Awdurdod llawn ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2021.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Goblygiad uniongyrchol o gytuno ar amcanion hirdymor yr Awdurdod, a’r camau byrdymor cysylltiedig tuag at eu cyflawni.
Cyllideb - Mae perthynas rhwng cynlluniau’r Awdurdod ar gyfer 2021/22 a’i adnoddau ariannol. Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021/22 yn cael ei chymeradwyo ym mis Tachwedd 2020 a bydd wedi cael ei chadarnhau erbyn canol mis Chwefror 2021.
Cyfreithiol - Mae’n gymorth i gydymffurfio â deddfwriaeth ym maes cynllunio gwelliannau a ddeddfwriaeth ym maes llesiant.
Staffio - Ni wyddom am effaith ar y lefelau staffio.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Bydd yr effaith a gaiff camau penodol ar yr agweddau hyn yn cael ei hasesu ar yr adeg briodol yn y gwaith o’u datblygu.
Risgiau - Mae’n lleihau’r risgiau o fethu â chydymffurfio â’r gfyraith, ac o fethu â chyllidebu a chynllunio’n briodol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen