Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad Polisi Disgresiynau ar gyfer Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gofyniad ar y Rheolwr Cynllun (sef yr Awdurdod) i lunio Datganiad Polisi Disgresiynau ar gyfer Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân.

Ceisio cymeradwyaeth i’r penderfyniadau ym Mholisi Disgresiynau Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân a cheisio cymeradwyaeth, ar ran y rheolwr cynllun, y bydd penderfyniadau’n cael eu dirprwyo o ddydd i’r Prif Swyddog Tân a’r Trysorydd.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Dan Reoliadau Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân mae’n ofynnol i’r Awdurdod wneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud ag elfennau disgresiynol penodol y cynllun. Rhaid i’r Awdurdod lunio a chyhoeddi polisi disgresiynau yn nodi a fydd disgresiwn yn cael ei ddefnyddio ai peidio.

ARGYMHELLION

Dyma ofyn i’r Aelodau gymeradwyo pob penderfyniad disgresiynol sydd yn Natganiad Polisi Digresiynau Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn cynnwys, lle bo hynny’n briodol, dirprwyo penderfyniadau i’r Prif Swyddog Tân a’r Trysorydd.

SYLWADAU’R BWRDD PENSIWN LLEOL

Cafodd yr adroddiad hwn ei ystyried gan y Bwrdd Pensiwn Lleol ar 27 Mai 2020 ac ni amlygwyd unrhyw faterion o bwys.

CEFNDIR

Ar hyn o bryd, mae pedwar cynllun pensiwn yn bodoli ar gyfer diffoddwyr tân, sef Cynllun 1992 (FPS), Cynllun 2007 (NFPS), Cynllun Pensiwn Addasedig ar gyfer y system RDS (MPS) a Chynllun 2015.  Mae’r polisi hwn yn nodi rhai o’r disgresiynau sy’n berthnasol i’r cynlluniau ac mae’n ceisio cymeradwyaeth yr Awdurdod ar ffyrdd o ddelio â’r disgresiynau hyn.

GWYBODAETH

Mae cynllun pensiwn y diffoddwyr tân yn mynnu bod pob rheolwr cynllun

(i) yn cyhoeddi datganiad polisi ysgrifenedig ynghylch y modd y bydd yn defnyddio’r gwahanol ddisgresiynau a ddarperir gan y cynlluniau pensiwn;

(ii) yn ei gadw dan adolygiad a

(iii) yn ei ddiwygio fel y bo angen.

Mae crynodeb o’r elfennau disgresiynol ym mhob cynllun a’r dull a argymhellir wedi ei nodi yn y polisi disgresiynau drafft yn atodiad A.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Mae’r Polisi Disgresiynau yn darparu eglurhad ar gyfer gwneud penderfyniadau am rai materion yn ymwneud â phensiynau, gan gyfrannu at sicrhau cynaliadwyedd ariannol yr Awdurdod.
Cyllideb - Gall rhai penderfyniadau effeithio ar y gyllideb o ran taliadau pensiwn uwch gan y cyflogwr, a’r effaith ar brisiadau actiwaraidd yn y dyfodol.
Cyfreithiol - Mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu’r gwaith o weinyddu Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn darparu ar gyfer nifer o bwerau disgresiwn ar ran yr Awdurdod Tân.
Staffio - Effaith bosibl ar lefelau staffio os yw rhai disgresiynau yn effeithio ar y broses y mae aelod yn mynd drwyddi wrth wneud penderfyniadau am ymddeol. Effaith bosibl ar dderbyn dyrchafiadau dros dro.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Dim.
Risgiau - Peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen