Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

1 Cyflwyno Datganiad Caethwasiaeth Fodern Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21 i’r Aelodau, fel y gwelir yn atodiad 1.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2 Y datganiad hwn yw Datganiad Caethwasiaeth Fodern cyntaf yr Awdurdod, ac mae’n nodi’r trefniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Mae hyn yn cadarnhau bod yr Awdurdod yn ymrwymo i sicrhau nad yw’n mynd ati i annog na chefnogi caethwasiaeth na masnachu pobl.

ARGYMHELLIAD

3 Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2020/21, a nodi’r camau a gymerwyd.

CEFNDIR

4 Daeth y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern i rym yn 2015 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau masnachol sydd â throsiant uwch na £36m lunio datganiad blynyddol. Fel corff cyhoeddus, mae’n arfer dda i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) lunio a chyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern i amlinellu’r risgiau posibl o ran caethwasiaeth fodern ac i nodi’r cynlluniau sydd ganddo yn ei le i liniaru rhag y risgiau hyn.

GWYBODAETH

5 Y datganiad yn atodiad 1 yw Datganiad Caethwasiaeth Fodern cyntaf yr Awdurdod, ac mae’n nodi camau a gweithgareddau yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21 i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

6 Mae’r datganiad yn nodi ymrwymiad yr Awdurdod i sicrhau nad yw’n mynd ati i annog na chefnogi caethwasiaeth na masnachu pobl o fewn gweithlu’r sefydliad, o fewn y cadwyni cyflenwi nac fel rhan o weithgareddau i ddarparu gwasanaethau.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae’r trefniadau sy’n bodoli yn cyd-fynd â’r amcanion a’r nodau llesiant ac maent yn cefnogi ein cyfrifoldebau cyffredinol.
Cyllideb Ddim yn gymwys.
Cyfreithiol Mae’r Datganiad yn rhoi sicrwydd fod yr Awdurdod yn gweithredu o fewn egwyddorion Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015).
Staffio Ddim yn gymwys.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Mae trefniadau cadarn i atal a chanfod achosion o fasnachu pobl neu gaethwasiaeth yn cefnogi’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd gan y sefydliad.
Risgiau Mae’r fframwaith a ddisgrifir yn y Datganiad yn cefnogi’r gwaith o reoli risgiau mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen