Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Archwilio 2021

PWRPAS YR ADRODDIAD

1 Cyflwyno, i’r Aelodau, gynllun archwilio 2021 ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru fel sydd yn atodiad 1.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2 Mae’r cynllun archwilio yn nodi gwaith arfaethedig Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn ogystal â’i ffi.

ARGYMHELLIAD

3 Gofynnir i’r Aelodau nodi’r wybodaeth sy’n cael ei darparu.

CEFNDIR

4 Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfrifoldeb statudol i ymgymryd ag archwiliad a chyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Llywodraeth Leol 1999 a’r Cod Ymarfer Archwilio.

5 Yn y blynyddoedd a fu, ac yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, mae’r Awdurdod wedi gorfod sefydlu trefniadau ar gyfer gwneud gwelliannau parhaus, gan gynnwys cynlluniau ac adroddiadau cysylltiedig, a byddai’r Archwilydd Cyffredinol yn asesu a yw’r Awdurdod yn debygol o fodloni (neu wedi bodloni) y gofynion hyn. Oherwydd newidiadau i’r ddeddfwriaeth yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2012, rhagwelir y bydd y Mesur hwn yn cael ei ddiddymu, ond ar gyfer blwyddyn 2020-21, bydd angen i’r Archwilydd archwilio’r asesiad o berfformiad a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod.

6 Hefyd, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod eu hamcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni.

GWYBODAETH

7 Mae’r Cynllun Archwilio yn atodiad 1 yn manylu ar y gwaith bydd Archwilio Cymru yn ei wneud gan gynnwys y gwaith canlynol:

• archwilio’r datganiadau ariannol, asesiad o b’un a yw Adroddiad Naratif yr Awdurdod a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael eu llunio yn unol â’r cyfarwyddyd perthnasol ai peidio, ac archwilio cyfrif cronfa’r Awdurdod ar gyfer Pensiwn y Diffoddwyr Tân.

• archwilio’r gwaith perfformiad, gan gynnwys archwilio’r cynllun gwella, adolygiad gwerth am arian ac archwiliad ar waith yr Awdurdod ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law am y rhaglenni archwilio hyn.

8 £61,264 yw’r ffi a amcangyfrifir ac a nodir yn y cynllun archwilio. Fodd bynnag, os gwelir bod angen gwaith ychwanegol, mae’n bosibl y bydd ffi ychwanegol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant
Hwyluso gwasanaethau tân ac achub mwy integredig sydd o ansawdd uchel ac yn ymatebol fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn gallu parhau i fod ar gael pryd a lle mae eu hangen, ac hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg
Cyllideb
£61,264 o gost, ac mae darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer hynny.
Cyfreithiol
Bydd y gwaith a gynigir gan Archwilio Cymru yn golygu asesiad gwrthrychol o gydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth a’r codau a ganlyn: Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004; Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009; Deddf Llywodraeth Leol 1999; Cod Ymarfer Archwilio; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Staffio
Amser swyddogion Tân ac Achub a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i weithio gyda Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg
Dim
Risgiau
Petai archwiliadau ariannol ddim yn cael eu cynnal, ni fyddai gwallau neu hepgoriadau yn y cyfrifon yn cael eu canfod a gallai rhanddeiliaid gael darlun camarweiniol o’r gwariant.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen