Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Trefniadau Perfformiad a Llywodraethu

PWRPAS YR ADRODDIAD

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y trefniadau perfformiad a llywodraethu ar gyfer awdurdodau tân ac achub (ATAau), a chynnig dull a fyddai’n cefnogi gallu’r Awdurdod i ddarparu ar gyfer newidiadau a ddisgwylir i’r trefniadau perfformiad a llywodraethu, tra’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion presennol.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud newidiadau i drefniadau perfformiad a llywodraethu ATAau. Er mwyn i’r newidiadau hynny allu dod, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Tân ac Achub, cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer rheoli perfformiad, a datgymhwyso Mesur Llywodraeth Leol 2009 mewn perthynas ag ATAau.

Nid oes dyddiad penodol wedi cael ei osod pryd byddai’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno arno neu ar ei ôl. Felly, bydd angen i’r Awdurdod baratoi ar gyfer y newidiadau tra’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol cyfredol ar gyfer Cynllunio Gwelliannau a Llesiant.

Roedd y gwaith i ddatblygu’r Fframwaith Cenedlaethol nesaf a threfniadau perfformiad newydd ar gyfer ATAau wedi cychwyn hyd yn oed cyn i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddod yn ddeddf, ond daeth gwaith hwn i stop oherwydd pandemig COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y gwaith hwn yn ailddechrau ar ôl etholiad y Senedd y mis nesaf.

Mae’r Awdurdod eisoes wedi cyhoeddi Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-24, sy’n cynnwys saith amcan hirdymor, yn cael eu hategu gan bum deg pump o gamau gweithredu arfaethedig. Yn hytrach na dilyn y patrwm cyfarwydd o ddatblygu ac ymgynghori ynghylch amcanion newydd ar gyfer 2022/23, mae’r adroddiad hwn yn argymell bod yr Awdurdod yn mynd ynglŷn â’i amcanion presennol ac yn defnyddio’r misoedd nesaf i ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar ei Gynllun cyfredol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau
(i) yn nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn;
(ii) yn cytuno y bydd yr Awdurdod, wrth aros am y newidiadau i’r trefniadau perfformiad a llywodraethu ar gyfer awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, yn canolbwyntio am y tro ar fynd ynglŷn â’r amcanion hirdymor a’r gweithredoedd arfaethedig a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-24.

CEFNDIR

Yn ei hadroddiad o’r cynnydd mewn perthynas â’r Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub yn 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y cyd-destun statudol ar gyfer gwaith cynllunio’r ATA yn gymhleth. Mae hefyd wedi cydnabod y canlynol er gwaethaf y cymhlethdod hwnnw, “Mae’r ATAau wedi gwneud yn dda i lunio cynlluniau busnes a strategol sy’n glir, yn gynhwysfawr ac wedi’u strwythuro’n dda. Yn ddieithriad, maent yn integreiddio ystyriaethau corfforaethol a gweithredol yn llwyr, ac maent yn cynnwys naratif clir sy’n nodi beth mae’r gwasanaeth yn cynnig ei gyflawni, a pham.”

Ers ysgrifennu’r adroddiad hwnnw, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ychwanegu mwy fyth o gymhlethdod yn yr ystyr ei bod yn gwneud darpariaeth ar gyfer newidiadau i drefniadau perfformiad a llywodraethu’r ATA, ond heb roi dyddiad pryd y daw’r newidiadau hyn yn ymarferol na dileu unrhyw un o’r dyletswyddau cyfredol yn y cyfamser.

Roedd adroddiad i’r Panel Gweithredol ym mis Chwefror 2021 yn rhoi gwybod am ddyfodiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac roedd yn amlinellu rhai o’r goblygiadau posibl i’r Awdurdod Tân ac Achub.

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth yr Aelodau gymeradwyo’r drafft terfynol o Gynllun Corfforaethol yr Awdurdod a oedd yn rhoi sylw i dair blwyddyn ariannol 2021-24. Mae hyn yn wahanol i arferiad yr Awdurdod o gyhoeddi cynlluniau blynyddol oherwydd ein bod yn aros am newid yng ngofynion cynllunio’r ATAau, a gan gydnabod yr angen am hyblygrwydd i ymateb fel y bo’r angen ac wrth i newidiadau statudol ddigwydd.

GWYBODAETH

Mae’r newidiadau disgwyliedig y cyfeirir atynt uchod yn cynnwys datgymhwyso Mesur Llywodraeth Leol 2009 mewn perthynas ag ATAau. Bydd hyn yn tynnu’r Awdurdod o’r diffiniad o Awdurdod Gwella Cymreig, gan baratoi’r ffordd o bosib at ddileu rhai o’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â dilyn cylch blynyddol o gynllunio gwelliannau.

Ond cyn i hyn allu digwydd, bydd angen i Lywodraeth Cymru fod wedi datblygu a chyhoeddi trefniadau newydd ar gyfer rheoli perfformiad. Bydd hynny yn ei dro yn dibynnu ar ddatblygu a chyhoeddi Fframwaith Cenedlaethol newydd Tân ac Achub o dan Adran 21a o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Mae Cylchlythyr Gwasanaethau Tân ac Achub W-FRSC(2021) yn cadarnhau y bydd y trafodaethau a’r gwaith i greu Fframwaith Cenedlaethol a threfniadau perfformiad a ddaeth i stop pan ddechreuodd pandemig COVID-19 yn ailddechrau yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.

Mae Gweinidogion Cymru eisoes yn meddu ar bwerau dan Adran 20 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 o ran sefydlu blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer ATAau drwy Fframwaith Cenedlaethol. Mae’r Adran 21a newydd o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru osod gofynion mewn perthynas â’r hyn sy’n cael ei gynnwys yng nghynlluniau’r ATAau, y ffordd y cânt eu paratoi a’u diwygio, eu hamseriad a’r cyfnodau y mae’n rhaid iddynt ymwneud â nhw, ynghyd â’u cyhoeddi.

Yn y cyfamser, yn ogystal â dyletswyddau’r Awdurdod o dan Fesur Llywodraeth Leol 2009, mae’r dyletswyddau cynllunio sy’n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2014 yn dal mewn grym.

Fel aelod statudol o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae angen i’r Awdurdod barhau i ystyried y pedwar cynllun llesiant lleol a chynlluniau diwygiedig a gaiff eu cyhoeddi ym mis Mai 2023.

Mae angen hefyd i’r ATA barhau i ymateb i ganfyddiadau neu argymhellion o ffynonellau allanol megis yr Archwilydd Cyffredinol, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Awdurdod wedi dilyn cylch blynyddol o ddatblygu amcanion gwella newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol drwy gyfres o gyfarfodydd o Weithgor Cynllunio sy’n cynnwys aelodau’r Panel Gweithredol. Gan fod yr Awdurdod eisoes wedi cyhoeddi cynllun tair-blynedd sy’n cynnwys saith amcan hirdymor a phum deg pump o gamau ategol, cynigir na fydd angen datblygu rhagor o amcanion ar hyn o bryd, a hynny er mwyn gallu canolbwyntio ar gyflawni’r camau a gynlluniwyd.

Unwaith y bydd y newidiadau i’r sefyllfa statudol yn fwy eglur, dylai’r Awdurdod fod mewn sefyllfa dda wedyn i ystyried beth fydd angen iddo ei wneud i fodloni disgwyliadau’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ac i gydymffurfio â’r gyfundrefn ddiwygiedig ar gyfer cynllunio a pherfformiad.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau oherwydd nid yw darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynd ati’n benodol i newid dyletswyddau’r Awdurdod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Byddai’r dull cyfun o wneud gwaith cynllunio a gwaith llesiant a fabwysiadwyd eisoes gan yr Awdurdod yn parhau hyd nes y caiff y newidiadau rheoleiddiol eu cyflwyno.
Cyllideb Mae costau hysbys y camau arfaethedig eisoes wedi cael eu hymgorffori yn y gyllideb ar gyfer eleni, ond gallai’r gwaith o gydymffurfio â rheoliadau newydd ym maes perfformiad a llywodraethu eleni olygu cost annisgwyl ychwanegol i’r Awdurdod.
Cyfreithiol Bydd angen cadw golwg ar gydymffurfiaeth â’r gofynion statudol.
Staffio Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Bydd angen i’r gwaith o ddatblygu neu ddiwygio polisïau, gweithdrefnau a threfniadau eraill gael ei asesu mewn perthynas â’r agweddau hyn yn ystod y broses o’u datblygu a’u rhoi ar waith.
Risgiau Oherwydd cymhlethdod trefniadau cynllunio, perfformiad a llywodraethu’r Awdurdod, a’r amserlen amhenodol, mae risg o fethu â chydymffurfio â’r gofynion statudol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen