Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Corfforaethol 2021-24

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno’r fersiwn drafft terfynol o Gynllun Corfforaethol 2021-24.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi amcanion gwella a llesiant, a bod wedi cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn y broses o ddatblygu’r amcanion hynny.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r fersiwn drafft terfynol o Gynllun Corfforaethol 2021-24 er mwyn i’r Aelodau ei gymeradwyo. Cafodd yr amcanion yn y cynllun eu diwygio a’u helaethu yn dilyn adborth gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r drafft terfynol o Gynllun Corfforaethol 2021-24, i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod cyn diwedd mis Mawrth 2021.

SYLWADAU GAN Y PANEL GWEITHREDOL

Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen. Fodd bynnag, yng nghyfarfod yr ATA ym mis Tachwedd 2020, cytunodd yr Aelodau fod y Cynllun Gwella a Llesiant drafft ar gyfer 2021/22 yn cael ei ddatblygu yn seiliedig ar barhau ag amcanion gwella a llesiant yr Awdurdod ar gyfer 2020/21.

CEFNDIR

Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru gyhoeddi amcanion gwella yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac amcanion llesiant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. I ddibenion prosesau cynllunio’r Awdurdod, caiff y rhain eu trin fel yr un rhai a chyfeirir atynt fel amcanion corfforaethol yr Awdurdod.

Dan y gyfraith, rhaid i’r Awdurdod ymdrechu i wella ei wasanaethau yn y tymor byr ac ystyried llesiant cenedlaethau o bobl yn yr ardal yn y dyfodol yn y tymor hir. Rhaid i’r amcanion llesiant sy’n cael eu mabwysiadu ganddo gyfrannu at gwrdd â nodau llesiant Cymru. A rhaid i’r Awdurdod fod yn gallu dangos ei fod yn cymryd yr holl gamau rhesymol (wrth gyflawni ei swyddogaethau) i gyflawni ei amcanion.

Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi datganiad hefyd, yn esbonio sut bydd y gwaith o gyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol, a pham mae o’r farn ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhaid i’r datganiad hwn nodi’r camau mwy uniongyrchol y mae’r Awdurdod yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.

GWYBODAETH

Roedd adborth a gafwyd gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2019 yn awgrymu bod angen i’r Awdurdod gynyddu nifer yr amcanion y mae’n mynd ynglŷn â nhw. Roedd hyn yn seiliedig ar ddehongli Adran 3(2)(a) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sef bod rhaid i gorff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion “…sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant”.

Bydd yr Aelodau’n cofio mai nodau llesiant Cymru yw: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu; a Chymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae’r Cynllun Corfforaethol 2021-24, sydd wedi’i atodi, yn seiliedig ar amcanion hirdymor yr Awdurdod (wedi’u hailenwi’n ‘amcanion corfforaethol’ oherwydd newidiadau cyfreithiol a ragwelir i’r gofynion adrodd). Cafodd y set yma o amcanion ei diwygio a’i helaethu i adlewyrchu adborth y Comisiynydd, a chafodd ei chymeradwyo gan yr Awdurdod ym mis Mawrth 2020.

I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r saith amcan corfforaethol, mae cyfres o gamau byrdymor wedi’u cysylltu â saith nod llesiant Cymru drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar wefan Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae’r Cynllun Corfforaethol yn rhoi crynodeb o amcanion llesiant yr Awdurdod, ac mae’n nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i fynd ynglŷn â’r amcanion hynny.
Cyllideb Mae cynlluniau’r Awdurdod ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn adlewyrchu lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael i’w cyflawni. Mae’r camau a gynlluniwyd ar gyfer 2021/22 wedi cael eu hystyried wrth osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn honno.
Cyfreithiol Bydd cyhoeddi’r Cynllun Corfforaethol erbyn mis Mawrth yn gymorth i gydymffurfio â deddfwriaeth ym maes llesiant a chynllunio gwelliannau.
Staffio Ni chanfuwyd dim.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Caiff effaith camau penodol ar yr agweddau hyn eu hasesu ar yr adeg briodol yn eu datblygiad.
Risgiau Mae cyhoeddi’r Cynllun Corfforaethol yn lleihau’r risg o beidio â chydymffurfio ac o fethu â chyllidebu a chynllunio’n briodol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen