Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth yw Gorgasglu?

Mae gorgasglu yn cynnwys pob un o’r canlynol:

  • Mae person yn casglu ac yn cadw llawer o eitemau, hyd yn oed pethau sy’n ymddangos i’r rhan fwyaf o bobl yn ddiwerth neu heb fawr o werth.

    Mae’r eitemau’n llenwi’r llefydd byw ac yn rhwystro’r person rhag defnyddio ei ystafelloedd yn unol â’u pwrpas gwreiddiol.

    Mae gorgasglu’r eitemau hyn yn achosi gofid ac yn effeithio ar allu’r person i wneud gweithgareddau bob dydd.

Pwy sy’n cael trafferth ag Ymddygiad Gorgasglu?

Gall yr anawsterau sy’n gysylltiedig â gorgasglu ddechrau pan fydd pobl yn eu glasoed cynnar, ond mae’n bosibl na fydd pobl yn gofyn am help ar gyfer gorgasglu am rai degawdau. Yn ôl yr amcangyfrifon, mae problemau gorgasglu difrifol yn bresennol ymysg o leiaf 2% - 5% o’r boblogaeth.

 

PAM MAE GORGASGLU’N BROBLEM I DDIOGELWCH TÂN?

Gall gorgasglu achosi problemau i’ch lles a’ch diogelwch chi neu i les a diogelwch pobl eraill. Mae baglu a chwympo yn fwy cyffredin. Mae mwy o risg o dân difrifol hefyd. Bwriad y canllaw hwn yw rhoi cynghorion i chi am ddiogelwch tân, yn ogystal â chamau ymarferol i’w cymryd i’ch helpu eich hun.

Gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref. Cadwch nhw’n rhydd o lwch, a phrofwch nhw unwaith yr wythnos.

  • Cadwch yr ardaloedd coginio yn glir.
  • Peidiwch â gosod eitemau ar neu wrth ymyl gwresogyddion, lampau neu offer trydanol eraill.
  • Os ydych chi’n ysmygu, defnyddiwch flwch llwch a pheidiwch byth â gadael sigarét heb gadw golwg arni. I wnewch yn siŵr fod sigaréts wedi diffodd, rhowch y blwch dan dap dŵr.
  • Cadwch y llwybrau dianc a’r drysau allanol yn glir.
  • Peidiwch â storio silindrau yn eich cartref oherwydd maen nhw’n beryglus iawn mewn tân.
  • Cadwch ganhwyllau draw oddi wrth unrhyw beth a allai fynd ar dân. A pheidiwch byth â’u gadael heb gadw golwg arnynt.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg sy’n gweithio.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen