Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth yw clefyd Alzheimer?

Clefyd Alzheimer yw'r achos mwyaf cyffredin o ddementia, sy'n effeithio ar tua chwech o bob 10 person â dementia yn y DU. Gall rhai pobl gael mwy nag un math o ddementia, er enghraifft, efallai y bydd ganddynt glefyd Alzheimer yn ogystal â dementia fasgwlaidd neu ddementia gyda chyrff Lewy.

Nid yw clefyd Alzheimer yn rhan arferol o heneiddio, ond mae'r siawns o ddatblygu'r clefyd yn cynyddu fel rydyn ni’n mynd yn hŷn. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n datblygu'r clefyd dros 65 mlwydd oed. Weithiau, gall Clefyd Alzheimer effeithio ar bobl iau.

Wrth i ni heneiddio mae ein hymennydd yn naturiol yn crebachu ychydig ac mae ein prosesau meddwl yn arafu. Fodd bynnag, mewn clefyd Alzheimer, mae newidiadau sy'n digwydd yn yr ymennydd yn wahanol i'r newidiadau a welir mewn heneiddio arferol. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys dau brotein, o'r enw amyloid a tau yn cronni. Er nad oes gan ymchwilwyr ddealltwriaeth gyflawn eto o'r hyn sy'n sbarduno hyn, mae'r ddau brotein yn ymwneud â datblygu clefyd Alzheimer. Mae'r difrod hwn yn effeithio ar sut mae ein hymennydd yn gweithio ac yn arwain at symptomau clefyd Alzheimer.

Mae clefyd Alzheimer yn aml yn datblygu'n araf dros nifer o flynyddoedd, felly nid yw symptomau bob amser yn amlwg i ddechrau. Yng nghamau cynnar y clefyd, gall hefyd fod yn anodd gwahaniaethu rhwng problemau cof sy'n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer ac anghofio ysgafn y gellir ei weld mewn heneiddio arferol.

Gall symptomau cynnar nodweddiadol clefyd Alzheimer gynnwys:

  • Problemau cof fel anghofio digwyddiadau diweddar, enwau ac wynebau yn rheolaidd.
  • Dod yn fwyfwy ailadroddus, e.e. ailadrodd cwestiynau ar ôl cyfnod byr iawn neu ailadrodd ymddygiadau ac arferion.
  • Camleoli eitemau'n rheolaidd neu eu rhoi mewn mannau od.
  • Dryswch ynglŷn â dyddiad neu amser y dydd.
  • Gall pobl fod yn ansicr o'u lleoliad neu fynd ar goll, yn enwedig mewn mannau anghyfarwydd.
  • Problemau cyfathrebu neu ddod o hyd i'r geiriau cywir.
  • Mae rhai pobl yn mynd yn isel eu hwyliau, yn bryderus neu'n flin. Gall eraill golli hunanhyder neu ddangos llai o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas.

Wrth i'r clefyd ddatblygu

Mae clefyd Alzheimer yn datblygu dros amser, ond mae cyflymder y newid yn amrywio rhwng pobl.
Wrth i glefyd Alzheimer fynd yn ei flaen, gall symptomau gynnwys:

  • Cof a sgiliau meddwl. Bydd pobl yn gweld bod eu gallu i gofio, meddwl a gwneud penderfyniadau yn gwaethygu.
  • Mae cyfathrebu ac iaith yn mynd yn anos.
  • Efallai y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd adnabod gwrthrychau cartref neu wynebau cyfarwydd.
  • Mae cyflawni tasgau o ddydd i ddydd yn mynd yn anoddach, er enghraifft defnyddio teclyn rheoli o bell teledu, ffôn neu gegin. Gall pobl hefyd ei chael hi'n anodd dod o hyd i wrthrychau o'u blaenau.
  • Mae newidiadau mewn patrymau cysgu yn digwydd yn aml.
  • Mae rhai pobl yn mynd yn drist, yn isel eu hysbryd neu'n rhwystredig am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae pryderon hefyd yn gyffredin, a gall pobl geisio sicrwydd ychwanegol neu ddod yn ofnus neu'n amheus.
  • Efallai y bydd pobl yn cael problemau cerdded, yn simsan ar eu traed, yn ei chael hi'n anoddach llyncu bwyd neu’n cael ffitiau.
  • Efallai y bydd pobl yn profi rhithwelediadau, lle maen nhw’n gweld neu'n clywed pethau nad ydynt yno. Efallai y bydd eraill yn credu bod pethau'n wir nad ydynt wedi digwydd mewn gwirionedd, a elwir yn 'gamddychmygion'.
  • Yn raddol, mae angen mwy o help ar bobl gyda gweithgareddau dyddiol fel gwisgo, bwyta a defnyddio'r toiled.

Mae diagnosis o glefyd Alzheimer yn bwysig. Mae'n golygu y gallwch gael y cymorth a'r triniaethau cywir. Mae hefyd yn golygu y gallwch gynllunio ar gyfer y dyfodol. Os ydych yn poeni am eich cof neu'ch iechyd, dylech siarad â'ch meddyg.

Os yw eich meddyg yn amau clefyd Alzheimer neu fath arall o ddementia, gallant eich cyfeirio at glinig cof neu glinig arbenigol arall.

Ar hyn o bryd nid oes modd gwneud diagnosis o unrhyw fath o ddementia gyda chywirdeb o 100%. Bydd eich meddyg yn llunio barn glinigol am y diagnosis mwyaf tebygol i esbonio eich symptomau yn seiliedig ar y wybodaeth maen nhw’n ei chasglu o'r asesiadau a'r profion hyn.

Os cewch eich asesu ar gyfer y posibilrwydd o gael clefyd Alzheimer neu fath arall o ddementia, gallwch ddewis peidio â gwybod y diagnosis. Gallwch hefyd ddewis pwy arall all wybod am eich diagnosis.

Gallai pobl â chlefyd Alzheimer elwa o gymryd rhai meddyginiaethau presgripsiwn fel ataliwr colestersterase. Nid yw'r meddyginiaethau hyn yn arafu cynnydd Alzheimer ond maen nhw’n cael eu defnyddio i drin rhai o'r symptomau sydd gan bobl.

Mae clefyd Alzheimer yn cael effaith enfawr ar fywyd rhywun, yn ogystal ag ar eu teulu a'u gofalwyr. Mae cymorth ymarferol ac emosiynol ar gael i helpu. Gall cael gafael ar wasanaethau a chymorth wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i rywun â dementia a'u teulu. Mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, gellir trefnu eraill drwy eich meddyg.

Gwella diogelwch tân yn y cartref i bobl â chlefyd Alzheimer

Mae diogelwch tân yn y cartref yn fater pwysig i bawb ac yn enwedig i bobl sy'n byw gyda chlefyd Alzheimer gallai cael y cymorth cywir wneud gwahaniaeth mawr i ba mor hir y gall rhywun aros yn annibynnol.

Yn aml iawn, bydd y person wedi byw yn ei ardal am amser hir, yn adnabod ei holl gymdogion a bydd eu hamgylchedd yn gyfarwydd. Pe bai'n rhaid eu tynnu i ffwrdd o’r amgylchoedd cyfarwydd hynny o ganlyniad i'w risg o ysmygu, byddai'n drueni mawr, gan y byddai'n ychwanegu at eu dryswch a byddai'n effeithio ymhellach ar les y person.

Ar gyfer ysmygwr bydd NWFRS yn gosod larymau mwg, blwch llwch sy'n gwrthsefyll tân ac yn darparu dillad gwely a blancedi sy’n gwrthsefyll tân ar gyfer y dodrefn, ac o ganlyniad gall ysmygwr aros gartref yn hirach

Canolbwyntio ar atal

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi canolbwyntio llawer mwy ar atal yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ac maen nhw’n cydnabod fwyfwy bod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl - gan gynnwys pobl hŷn a phobl â chlefyd Alzheimer a Dementia.

Bydd un o'n tîm yn trefnu ymweliad â'r cartref ac yn cynnal Gwiriad Diogel a Da, gan ddarparu larymau mwg, pecynnau sarn gwrth-dân ac offer arall. Maen nhw hefyd yn rhoi pobl mewn cysylltiad ag asiantaethau a all gynnig mesurau diogelwch ychwanegol.

Mae amgylchiadau pob person yn unigryw ac o ganlyniad mae ganddo anghenion gwahanol. Bydd pob ymweliad a gynhelir gennym yn cael ei deilwra'n benodol i anghenion a dymuniadau'r person hwnnw. Unwaith y bydd y person yn hysbys i ni gallwn weithio gyda nhw a'n partneriaid i roi mesurau diogelwch ar waith.

Peryglon tân

Oherwydd natur y salwch mae tân yn dod yn fwy o risg wrth i'r clefyd Alzheimer/Dementia fynd yn ei flaen am nifer o resymau.

  • Gall pobl â dementia fynd yn ôl i hen ffyrdd o wneud pethau:
  • Defnyddio sosban sglodion hen ffasiwn
  • Rhoi tegellau trydan ar yr hob, gan achosi iddynt doddi a dechrau tân, neu adael gwresogyddion trydan neu nwy ger llenni neu ddodrefn, gan ddefnyddio'r tanau hyn i sychu eu dillad.
  • Gall anghofio neu ddryswch ynglŷn â sut i ddefnyddio offer fel microdon achosi problemau hefyd.
  • Drysu gyda’r amser gan roi pethau ymlaen am lawer rhy hir neu ddrysu rhwng eiliadau a munudau

Rhag ofn tân

Efallai y bydd pobl â chlefyd Alzheimer/Dementia yn ei chael hi'n anoddach dianc neu ddeall y sefyllfa os bydd tân yn dechrau.

Unwaith y bydd person yn hysbys i'r Gwasanaeth fel un sy'n agored i niwed, gallwn roi nodyn ar System Reoli 999 a fydd yn codi os bydd galw i'w gartref, felly bydd y diffoddwyr tân sy'n mynychu'r digwyddiad yn gwybod cyn iddynt gyrraedd bod rhywun yn byw yn y cyfeiriad sy'n agored i niwed.

Mae gan bob gwasanaeth tân ac achub ddyletswydd i ddarparu cyngor ar ddiogelwch tân. Os hoffech gael rhagor o gyngor, cysylltwch â gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i esbonio eich sefyllfa chi neu sefyllfa eich perthynas a gofyn i ni am gyngor.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen