Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofiwch: Tymor llosgi dan reolaeth yn ddod i ben ar 31 Mawrth

Postiwyd

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, ynghyd â phartneriaid Ymgyrch Dawns Glaw, yn atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr y bydd y ffenestr ar gyfer llosgi glaswelltiroedd dan reolaeth, mewn ardaloedd tir uchel, yn dod i ben ddydd Iau 31 Mawrth 2022. Y dyddiad cau ar gyfer llosgi dan reolaeth mewn ardaloedd eraill oedd dydd Iau 15 Mawrth 2022.

Er y gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi glaswelltiroedd dan reolaeth yn gyfreithlon mewn ardaloedd tir uchel tan 31 Mawrth, mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt wneud hynny mewn modd diogel a llenwi cynllun rheoli llosgi, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, cyn llosgi.

Mae Ymgyrch Dawns Glaw yn dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, sydd wedi ailffurfio, o 1 Mawrth 2022, i leihau a, lle bo hynny'n bosibl, ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Dywedodd y Rheolwr Ardal Peter Greenslade, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw, “Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi profi tywydd sych ac, yn aml, wyntog, ac mae criwiau tân o bob cwr o Gymru wedi cael eu hanfon i nifer mawr o danau glaswellt; roedd achos y rhain yn amrywio o gynnau tanau bwriadol i achosion cyfreithiol o losgi yn mynd y tu hwnt i reolaeth.

"Ddydd Iau 31 Mawrth, bydd y tymor llosgi cyfreithlon yn dod i ben. Er y gall ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i losgi glaswelltiroedd yn gyfreithlon yn ystod y cyfnod hwn, yn rhan o'u cynllun rheol tir, rhaid iddynt wneud hynny mewn modd cyfrifol a thrwy ddilyn cynllun llosgi wedi'i lenwi.

"O 1 Ebrill ymlaen, ni waeth beth fydd y bwriad na'r lleoliad, bydd cynnau tân glaswellt yn anghyfreithlon ac yn cael ei ystyried yn achos o gynnau tân bwriadol. Os bydd unrhyw un yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus yn gysylltiedig â thân glaswellt bwriadol, gall roi gwybod i CrimeStoppers yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111. Gall hefyd ffonio'r Heddlu ar 101. Os bydd achos brys, ffoniwch 999 bob tro.”

Canllawiau ar Losgi dan Reolaeth

Pan fo'r tywydd yn sych, mae'n rhwydd i danau ledaenu. Mae'r tanau hyn yn aml mewn ardaloedd lle mae'r mynediad yn eithriadol o anodd ac mae'r cyflenwad dŵr yn gyfyngedig – pe byddai'r tân yn mynd y tu hwnt i reolaeth, gallai hyn roi pwysau enfawr ar adnoddau, gan olygu y byddai diffoddwyr tân yn brysur am gyfnod sylweddol o amser yn ceisio dod ag ef dan reolaeth. Gall y tanau hyn roi cartrefi, da byw a bywydau'r criwiau a phreswylwyr mewn perygl wrth i ddiffoddwyr tân gael eu hatal rhag ymateb i argyfyngau dilys.

Dilynwch y canllawiau isod os ydych yn cynllunio llosgi dan reolaeth:

  • Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl a chyfarpar i reoli'r tân.
  • Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a sicrhewch nad oes yna risg i eiddo, heolydd, na bywyd gwyllt.
  • Os bydd tân yn mynd allan o reolaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith gan roi manylion am y lleoliad a'r mynediad.
  • Mae'n anghyfreithlon gadael tân â neb yn ei wylio neu beidio â sicrhau bod yna ddigon o bobl i'w reoli.
  • Dilynwch y Cod Llosgi Grug a Glaswellt 
  • Gofalwch bob amser fod tân wedi diffodd yn llwyr cyn ei adael, a gwiriwch drannoeth i sicrhau nad yw wedi ailgynnau.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen