Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Penwythnos prysur i griwiau oherwydd tanau yn yr awyr agored

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog yn diolch i staff ledled y Gwasanaeth am eu hymdrechion, ac mae’n cyflwyno apêl i helpu i atal digwyddiadau yn y dyfodol yn dilyn penwythnos prysur iawn yn mynd at danau yn yr awyr agored yng Ngogledd Cymru.

Rhwng 8am fore Gwener (25 Mawrth) a 8pm nos Sul (27 Mawrth), bu staff yr Ystafell Reoli yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio â 364 o alwadau. Roedd 31 o’r rhain yn danau awyr agored.

Dyma oedd y tanau mwyaf difrifol:

  • Llyn Celyn (Amser yr alwad 12.30 ddydd Gwener 25 Mawrth) – Aeth wyth o beiriannau, un cerbyd oddi-ar-y-ffordd, un uned rheoli digwyddiadau ac un hofrennydd yno. Daeth i ben am 08.38 ddydd Sul, 28 Mawrth.
  • Rhiw, Gwynedd (Amser yr alwad 10.54 ddydd Sadwrn, 26Mawrth) – aeth tri pheiriant ac un cerbyd tanau awyr agored yno. Daeth i ben am 17.41 ddydd Sadwrn 26
  • Mynydd Nefyn (Amser yr alwad 19.00 ddydd Sadwrn 26 Mawrth) – Aeth tri pheiriant, tri pheiriant pinzgauer ac un uned tanau awyr agored yno. Daeth i ben am 17.41 ddydd Sul, 27 Mawrth.
  • Tanygrisiau (Amser yr alwad 12.12, ddydd Sul 27 Mawrth) – Aeth 10 peiriant, dau gerbyd oddi-ar-y-ffordd, un cerbyd tanau awyr agored ac un uned rheoli digwyddiadau yno. Daeth i ben am 10.46, ddydd Llun 28 Mawrth.
  • Trawsfynydd (Amser yr alwad 13.41, ddydd Sul 27ain Mawrth) – aeth pum peiriant, un cerbyd oddi-ar-y-ffordd ac un cerbyd tanau awyr agored yno. Daeth i ben 12.45 ar 28 Mawrth.
  • Llyn Elsi, Betws y Coed (Amser yr alwad 14.33, ddydd Sul 27 Mawrth) – aeth tri pheiriant yno. Daeth i ben am 19.29, ddydd Sul 27 Mawrth.

 

Fel yr esbonia Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Fe wnes i weld gyda fy llygaid fy hun broffesiynoldeb, ymroddiad a chadernid ein staff dros y penwythnos prysur pan es at y tanau dinistriol hyn ledled De Gwynedd a rhan o Gonwy.

“Yn ystod y cyfnd o saith awr dros bnawn Sul, cawsom tri thân difrifol yn yr awyr agored ar yr un pryd, sef tân yn yr awyr agored yn Nhanygrisiau lle aeth 10 peiriant tân, un lle roedd angen pum peiriant yn Nhrawsfynydd ac un arall lle roedd tri pheiriant yn Llyn Elsi, Betws y Coed. Hefyd, roedd angen dau griw i fynd at dân mewn cegin yn Wrecsam.

“Yn ffodus, oherwydd hyblygrwydd ac ymroddiad ein staff ar y safleoedd tân, ynghyd â’r staff yn yr Ystafell Reoli, fe lwyddon ni i fynd at bob digwyddiad a helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel.

“Er hynny, ni ddylai ein hadnoddau gael eu hymestyn fel hyn – byddai wedi bod yn bosibl osgoi’r tanau hyn yn llwyr.

“Mae fy neges yn glir – peidiwch â llosgi oni bai fod wirioneddol raid. Os oes angen i chi losgi cyn diwedd y tymor llosgi ar yr ucheldir ddydd Iau, gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun llosgi, dylech gael digon o adnoddau i reoli’r tân a dylech roi gwybod i’n hystafell reoli ar 01931 20522006.

“Hefyd, er bod damweiniau’n gallu digwydd, mae rhai pobl yn ein cymunedau yn cynnau tanau’n fwriadol – mae hyn yn drosedd a byddant yn cael eu herlyn.

“Os ydych chi yng nhefn gwlad yn mwynhau eich hunain ac yn gweld unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen