Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyngor ar storio petrol

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori bod storio petrol neu danwydd arall gartref yn golygu’r posibilrwydd o berygl, ac y dylid osgoi hynny oherwydd y risgiau.

Mae petrol a thanwydd arall yn rhyddhau anwedd sy’n eithriadol o fflamadwy a rhaid eu trin yn ofalus iawn.

Gallwch storio hyd at 30 litr o betrol gartref neu ar safle sydd ddim yn weithle, heb roi gwybod i’r Awdurdod Gorfodi Petrolewm (PEA) lleol.

Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i chi storio petrol yn y cynwysyddion yma:

  • 30 litr mewn tanc tanwydd dros dro.
  • 20 litr mewn cynhwysedd metal cymeradwy.
  • 10 litr mewn cynhwysydd plastig cymeradwy.
  • Cyfuniad o’r uchod, gyda dim mwy na 30 litr.

Nid yw gorsafoedd petrol yn caniatáu i yrwyr roi tanwydd mewn cynwysyddion sydd ddim yn rhai cymeradwy.

Dywedodd Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Byddem yn cynghori’r cyhoedd i beidio â storio petrol neu danwydd arall gartref, ond os oes raid storio tanwydd, er enghraifft ar gyfer offer pŵer garddio fel peiriant torri gwair, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn :

- Rhaid i danwydd beidio â chael ei storio y tu mewn i dŷ, fflat neu gartref arall, a rhaid iddo beidio â chael ei storio o dan y grisiau neu wrth ymyl drysau a allai fod yn allanfa petai tân yn digwydd.
- Rhaid i danwydd gael ei storio mewn cynwysyddion fel y nodir uchod, a rhaid peidio â chadw mwy na’r hyn a nodir.
- Rhaid i le storio fod ymhell oddi wrth le byw, h.y. mewn adeilad allanol, garej neu sied, a bod wedi’i awyru’n dda.
- Dylai’r cynwysyddion fod dan glo er mwyn amddiffyn rhag y posibilrwydd o fandaliaeth neu losgi bwriadol.
- Dylid gwahardd ysmygu neu fflamau noeth yn agos at y cynwysyddion tanwydd, a dylid eu cadw draw oddi wrth unrhyw beth a allai eu rhoi ar dân.
- Dylid arllwys tanwydd yn yr awyr agored, nid y tu mewn i’r lle storio
- Os yw’n briodol, dylid defnyddio ffrwd arllwys neu dwmffat.
- Os oes tanwydd yn tasgu ar ddillad, dylid eu newid ar unwaith.
- Yn ddelfrydol, dylid cael offer diffodd tân sy’n defnyddio ewyn neu bowdwr wrth ymyl y lle storio tanwydd, ynghyd â bwced o dywod sych i amsugno petrol sydd wedi gollwng.

"Mae’n drosedd storio mwy na’r terfyn uchaf cyfreithlon o danwydd, oni bai eich bod wedi cael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu Petrolewm. Mae petrol yn sylwedd peryglus, a phan mae’n bresennol gall olygu bod y risg o dân yn llawer uwch."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen