Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nodyn i atgoffa perchnogion safleoedd trwyddedig i ystyried darpariaethau diogelwch tân

Postiwyd

Ar ôl ailagor clybiau nos heb gyfyngiadau COVID ar 7 Awst, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa perchnogion safleoedd trwyddedig i sicrhau bod eu darpariaethau diogelwch tân yn gywir a bod y niferoedd mynychu yn cael eu cadw ar lefel ddiogel.  

Dywedodd Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Ar ôl cau i lawr am amser hir, mae’n ddealladwy fod tafarnau a chlybiau nos yng Ngogledd Cymru yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid yn ôl ers codi’r cyfyngiadau Covid.  

“Gan fod nifer gynyddol o ymwelwyr tymhorol yn dod i’r ardal, a bod y cyfyngiadau Covid wedi cael eu codi, mae’n debygol iawn y bydd safleoedd trwyddedig yn y rhanbarth yn eithriadol o brysur dros yr wythnosau nesaf.   

“Gan gadw hyn mewn cof, rhaid sicrhau bod eich darpariaethau diogelwch tân yn gywir er mwyn diogelwch eich cwsmeriaid a’ch staff. Mae’n hollbwysig fod modd rhoi gwybod i bobl os bydd tân a’u bod yn gallu dianc yn gyflym a diogel o’r safle os bydd argyfwng.

“Mae’n ofynnol dan y gyfraith i safleoedd trwyddedig gofnodi asesiad risg tân. Mae’n bwysig i chi adolygu a diweddaru’r Asesiad Risg Tân os gwneir unrhyw newidiadau i’r safle, i ganfod a yw eich rhagofalon tân cyffredinol presennol yn ddigonol, a phan fo angen i weithredu mesurau rheoli ychwanegol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu cadw’n ddiogel os bydd tân.  

“Bydd eich asesiad risg tân hefyd yn pennu uchafswm nifer y bobl gaiff fod ar eich safle – sef uchafswm y nifer y gellir darparu ar eu cyfer yn ddiogel. Mae’r nifer hwn yn seiliedig ar nifer a maint yr allanfeydd sydd ar gael ac ar ffactorau’n ymwneud ag arwynebedd y llawr. Ni ddylid fyth gael mwy o bobl na’r uchafswm.” 

Mae mwy o wybodaeth am Ddiogelwch Tân i Fusnesau ar gael drwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: www.northwalesfire.gov.wales/keeping-you-safe/at-your-business/ a thrwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.   

I gael mwy o gyngor, cysylltwch â’r tîm Diogelwch Tân i Fusnesau yn eich ardal chi:  

Conwy a Sir Ddinbych – Swyddfa Ardal Conwy, Gorsaf Dân Bae Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 8AB 

E-bost: ConwyOffice@nwales-fireservice.org.uk  

Ffôn – 01745 355 450 

 

Wrecsam a Sir y Fflint – Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Gwasanaeth Tân, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam. LL13 7YU 

E-bost: Flintshire.Wrexham@nwales-fireservice.org.uk  

Ffôn – 01978 367870 

 

Gwynedd a Môn – Gorsaf Dân Caernarfon, Ffordd Llanberis, Caernarfon. 

E-bost: Gwyneddmonmailbox@nwales-fireservice.org.uk  

Ffôn – 01286 662999 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen