Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Busnesau

Postiwyd

 

Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yn annog busnesau sydd wedi ailagor i beidio ag anghofio am ddiogelwch tân ac i wneud yn siŵr fod hynny’n dal yn flaenoriaeth yn y gweithle.

Daw’r alwad fel rhan o Wythnos Diogelwch Busnesau Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân sy’n cael ei chynnal rhwng 6ed – 12fed Medi. Nod yr ymgyrch yw gwneud busnesau’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau tuag at ddiogelwch tân fel eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth er mwyn cadw’r safle a’r bobl sydd yno yn ddiogel rhag tân. 

Bu’n rhaid i lawer o fusnesau gau eu drysau neu newid eu ffordd o weithio oherwydd pandemig covid-19. Ond gan eu bod bellach wedi ailagor, rhaid i berchnogion busnesau a Phersonau Cyfrifol adolygu unrhyw newidiadau a wnaethant yn y gweithle i ymateb i’r pandemig. Mae’n bwysig cymryd camau i sicrhau bod staff wedi cael yr hyfforddiant addas, bod y cyfarpar tân yn cael ei wirio a’u gynnal a’i gadw, ac nad yw mesurau ar gyfer covid yn peryglu diogelwch tân. 

Gall Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad i helpu a lleihau’r risg o dân yn y gweithle.  

I gael mwy o gyngor, cysylltwch â’ch tîm Diogelwch Tân Busnesau lleol: 

Conwy a Sir Ddinbych – Swyddfa Ardal Conwy, Gorsaf Dân Bae Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn. LL29 8AB 

E-bost: ConwyOffice@nwales-fireservice.org.uk 

Ffôn –  01745 355 450 

 

Wrecsam a Sir y Fflint – Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7YU 

E-bost:  Flintshire.Wrexham@nwales-fireservice.org.uk 

Ffôn – 01978 367870 

 

Gwynedd a Môn – Gorsaf Dân Caernarfon, Ffordd Llanberis, Caernarfon 

E-bost:  Gwyneddmonmailbox@nwales-fireservice.org.uk 

Ffôn – 01286 662999 

 

 

Mae’r cyngor ar gael drwy gydol y flwyddyn, ond mae wythnos yr ymgyrch yn annog pobl i beidio ag oedi cyn adolygu diogelwch tân. 

Mae cyngor ar gael hefyd i fusnesau ynglŷn â lleihau’r risg o losgi bwriadol drwy gymryd camau syml i ddiogelu safleoedd. Cafwyd mwy na 4,700 o danau bwriadol mewn busnesau yn y Deyrnas Unedig yn 2019-20 ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn rhai heb eu cynllunio pryd mae pobl yn gweld cyfle i losgi. 

Hefyd, gall gwasanaethau tân roi cymorth i ostwng nifer y galwadau diangen yn y gweithle sy’n aml yn cael effaith ar gynhyrchiant busnesau. Gan fod tua 44 y cant o’r adegau y mae gwasanaethau tân yn cael eu galw allan yn y DU yn digwydd o ganlyniad i alwadau diangen, maent yn cynyddu’r pwysau ar adnoddau ac amser y gwasanaeth tân, sef adnoddau ac amser allai fynd ar ddelio ag argyfyngau go iawn a gwaith atal a diogelu yn y gymuned. 

Dywedodd Mark Andrews, Arweinydd Ymgysylltu â Busnesau yn yr NFCC: 

"Mae’r gwasanaethau tân wedi ymrwymo i helpu busnesau i ddychwelyd i’r gwaith er mwyn gallu parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi ac i gymunedau lleol. 

Mae wedi bod yn gyfnod heriol ond gall tân gael effaith ddinistriol ar fusnesau ac mae rhai na ddaw fyth yn ôl. Ond gall y gwasanaethau tân roi cymorth ac arweiniad i leihau’r risg tân ac mae’r NFCC yn eu hannog i gysylltu â’u gwasanaeth tân lleol i gael cyngor." 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen