Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am bethau ysmygu yn dilyn tân mewn fflat yng Nghaernarfon

Postiwyd

Tynnir sylw at beryglon sigaréts heb gael eu diffodd yn iawn ar ôl i griwiau fynd i fflat a oedd ar dân yng Nghaernarfon fore heddiw. Credir mai deunyddiau ysmygu wedi cael eu gadael yn ddiofal achosodd y tân.

Galwyd criwiau o Gaernarfon a Llanberis at fflat ar Lôn Parc, Caernarfon, Gwynedd am 7.18am fore heddiw, dydd Llun 12fed Gorffennaf. Defnyddiodd y diffoddwyr tân un bibell jet a phedwar set o offer anadlu i ddelio gyda’r tân.

Doedd neb yn y fflat ar adeg y tân.

Dywedodd Eilian Roberts, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn:

"Mae mor bwysig gwneud yn siŵr fod pob deunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn ddiogel mewn cynhwysydd addas.

 "Os oes gennych berthnasau neu ffrindiau oedrannus sy’n ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am y peryglon posibl – drwy ddilyn y camau isod gallant helpu i leihau’r risg o dân yn gysylltiedig ag ysmygu yn eu cartref:

- Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch wedi blino, wedi cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu wedi yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu tra mae eich sigarét yn dal i losgi

- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely – os ydych chi eisiau gorwedd, peidiwch â thanio sigarét. Gallech chi syrthio i gysgu a rhoi eich gwely ar dân

- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs neu bibau wedi’u cynnau heb neb yn cadw golwg arnynt – byddai’n hawdd iddynt syrthio drosodd wrth iddynt losgi

- Prynwch danwyr sigaréts a blychau matsis sy’n ddiogel rhag plant. Cadwch nhw lle byddai plant yn methu eu cyrraedd

- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol sy’n methu troi drosodd yn hawdd, ac sydd wedi’i wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi ar ôl i chi ei gorffen – diffoddwch hi, yn llwyr

- Rhowch eich llwch mewn blwch llwch, a byth mewn basged wastraff sy’n cynnwys sbwriel arall – a pheidiwch â gadael i’r blwch lenwi â llwch neu stympiau sigaréts

- Gosodwch larwm mwg a gofalu amdano – petai tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fyddai gennych i ddianc. Gall larwm mwg gweithredol roi amser gwerthfawr i chi adael, aros allan a ffonio 999. Gallwch chi gael larwm mwg sylfaenol am yr un pris â phaced o sigaréts. Gwell fyth yw larymau mwg sydd â batris hir-oes neu rai sy’n defnyddio’r prif gyflenwad trydan.

Ychwanegodd Eilian: “Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach yn rhad ac am ddim i bawb sy’n byw yn yr ardal – bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cynghorion i chi ar ddiogelwch tân, yn eich helpu i greu cynllun dianc o dân, ac yn darparu larymau newydd – y cwbl am ddim.

“I gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach yn rhad ac am ddim, ewch i’n gwefan neu ffoniwch y llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen