Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwesty yn y Rhyl yn cael ei gyhuddo o fethu ag ymateb i gais am wybodaeth

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gwesty yn y Rhyl yn cwrdd â’r ddeddfwriaeth ofynnol ar gyfer diogelwch tân.

Yn ystod yr ymchwiliad i achos o dorri’r rheolau diogelwch tân, gofynnwyd i gwmni a’i gyfarwyddwr ddarparu gwybodaeth i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Nid ymatebwyd i’r cais hwn am wybodaeth, a thrwy ddefnyddio deddfwriaeth sydd yn y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), dechreuwyd ar achos cyfreithiol.

Yn gynharach y mis yma, ar 22 Mehefin, cafodd Cyfarwyddwr y Cwmni ddirwy o £2000 a chafodd y cwmni ddirwy o £1000 am dri throsedd yn ymwneud â methu â chydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Hefyd, dyfarnwyd mwy na £2800 o gostau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dywedodd Sharon Bouckley, Rheolwr Gwylfa Diogelwch Tân Busnesau: “Mae dyletswydd arnom i erlyn y rhai sy’n methu â diogelu eraill ac i sicrhau’r lefel uchaf o ddiogelwch i’r cyhoedd.

“Dylai diogelwch gwesteion a staff fod yn flaenllaw, a thrwy ein rhaglenni archwilio ac addysg byddwn yn gweithio’n rhagweithiol gyda busnesau i sicrhau bod lefel ddigonol o ddiogelwch tân yn cael ei chyrraedd.”

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau, Bob Mason: “Mae’n bwysig i berchnogion, cyfarwyddwyr a chwmnïau ddeall bod y gyfraith yn disgwyl iddynt ymateb yn llwyr i geisiadau am wybodaeth. Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn petruso cyn defnyddio holl bwerau’r gyfraith diogelwch tân i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen