Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân angheuol mewn tŷ yn Nhreffynnon

Postiwyd

Yn anffodus mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân y bore (dydd Sul, Mehefin 20fed).

Ychydig ar ôl 01: 30hrs hysbyswyd yr heddlu o dân mewn tŷ mewn eiddo ar Moor Lane yn Nhreffynnon.

Mynychodd y gwasanaethau brys, ond yn anffodus roedd y ddynes, oedd yn ei 30au ac a oedd yr unig ddeiliad yn yr eiddo, wedi marw yn y fan a’r lle. Mae ei pherthynas agosaf wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru bellach ar y gweill i sefydlu beth ddigwyddodd.

Cydymdeimlwn â theulu'r ddynas ar yr adeg anodd hon.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen