Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Tân Cymru yn galw ar berchnogion cartrefi gwyliau i weithredu gyda’r cynnydd disgwyliedig mewn gwyliau gartref

Postiwyd

Wrth i'r tywydd wella a chyfyngiadau Covid-19 ddechrau llacio, rhagwelir cynnydd mewn gwyliau gartref gyda llawer yn dewis mynd ar wyliau ym mannau prydferth Cymru. Mae Gwasanaethau Tân ar draws Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad Croeso Cymru a pherchnogion cartrefi gwyliau i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chanllawiau newydd a chyfredol i barhau i gadw eu hunain a'u cwsmeriaid yn ddiogel yr haf hwn.

Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnig cyngor a chymorth unigryw a phenodol mewn perthynas â chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eu heiddo yn cydymffurfio â thân. Mae'r canllawiau'n cynnwys rhestrau gwirio defnyddiol, cyngor asesu risg tân wedd symlach ac awgrymiadau am sut i leihau'r risg o dân.

Dywedodd Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes: “Mae'r pecyn cymorth amhrisiadwy hwn yn darparu cyngor ac arweiniad penodol ar gyfer y sawl sy'n gyfrifol am osod llety gwyliau hunanarlwyo i helpu i leihau'r risg o dân. Rydym yn annog pawb sy'n bwriadu gosod llety eleni i fod yn ymwybodol o'r risgiau ac i sicrhau bod eu llety'n cydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân. Gyda'r rheoliadau hyn yn weithredol ar draws Cymru gyfan, maent yn safoni'r cyngor ledled y wlad, gan ei gwneud yn symlach i berchnogion gwyliau gydymffurfio heb unrhyw ddryswch.

“Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth hwn yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio â chyfrifoldebau'r Gorchymyn Diogelwch Tân.”

Mae'r llyfryn canllaw defnyddiol hwn yn darparu gwybodaeth werthfawr sy'n hanfodol i'r rhai sy'n cynnal llety gwyliau hunanarlwyo. Mae hyn yn cynnwys diogelwch o gwmpas trydan a chyngor am leihau'r risg o dân wrth gadw tŷ, argymhellion ar gyfer larymau tân awtomatig, canllawiau ar lwybrau dianc, offer diffodd tân a gymeradwyir a llawer mwy.

I gael cyngor pellach ar ddiogelwch tân, cysylltwch âch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol yng Nghymru.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen