Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl larwm mwg yn dilyn tân ym Marchwiail

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Tân yn apelio ar drigolion i wneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg gweithredol yn y cartref wedi i ddynes yn ei 70au gael ei chludo i’r ysbyty yn dilyn tân yn ei chartref ym Marchwiail.

Roedd y larymau mwg yn yr eiddo wedi eu cysylltu â system larwm, a rybuddiodd ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am y tân yn Elwyn Drive, Marchwiail, Wrecsam am 16.56 o’r gloch ddoe, Dydd Sul 23 Mai.

Aeth dau griw o Wrecsam at y tân ac fe gariodd y diffoddwyr tân y preswylydd allan o’r eiddo yn ddiogel. Cafod driniaeth yn y fan a’r lle gan barafeddygon, ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r ystafell wely a difrod mwg drwy’r adeilad. Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Roedd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn bresennol yn ystod y digwyddiad. Meddai:

“Mae ein meddyliau gyda’r ddynes a’i theulu ac rydym yn mawr obeithio y bydd yn gwella’n llwyr.

“Hoffwn ganmol ein diffoddwyr tân a weithiodd yn gyflym ac effeithiol i achub y ddynes o’r eiddo a diffodd y tân.

“Mae systemau larwm sy'n cael eu monitro fel yr un a oedd yn yr eiddo hwn yn cynnig cefnogaeth i bobl oedrannus neu fregus - ac i bob un ohonom, fe all larymau mwg roi rhybudd cynnar o dân a chyfle i fynd allan, aros allan a galw 999.

“Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach i bawb yn y rhanbarth - bydd y Gwasanaeth yn rhannu cyngor diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc o dân a darparu larymau mwg newydd - a’r cyfan am ddim.

“I gofrestru am archwiliad diogel ac iach, ffoniwch 0800 169 1234 rhwng 9am-5pm o ddydd Lluni i ddydd Gwener.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen