Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad ym Marchwiail yn tanio apêl ‘Achubwch Fywyd’

Postiwyd

Mae Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, wedi gwneud apêl bersonol i aelodau o’r gymuned ofalu am deulu, ffrindiau a chymdogion sy’n agored i niwed, ac i ymuno ag ef i gefnogi’r ymgyrch #AchubwchFywyd. Wrth lansio’r ymgyrch, mae Paul wedi rhyddhau lluniau o’r difrod ofnadwy a achoswyd gan dân yr aeth ato dros y penwythnos ym Marchwiail, ger Wrecsam.

Credir bod y tân wedi cael ei gynnau gan sigarét, ac achosodd 100% o ddifrod tân i ystafell wely dynes yn ei saithdegau a oedd yn byw ar ei phen ei hun yn yr eiddo.

Roedd larymau mwg yn yr eiddo wedi’u cysylltu â system larwm, a rhoddodd honno wybod i ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod tân yn ei chartref ar Rodfa Elwyn, Marchwiail, Wrecsam brynhawn Sul.

Aeth dau griw o Wrecsam yno, ac fe wnaeth y diffoddwyr tân achub y ddynes. Cafodd ei thrin yn y fan a’r lle gan barafeddygon, ac mae hi nawr yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Paul: “Rydym wedi siarad gyda teulu Glenys, sef y wraig yn y tân,  a dymunwn y gorau iddi.

“Yn llawer rhy aml, rydw i’n gweld y difrod sy’n gallu cael ei achosi gan dân – a dyna pam rydw i eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein cymunedau.

“Yn anffodus, mae pobl yn dal i golli eu bywydau yng Nghymru o ganlyniad i dân yn y cartref – ond gallwch chi ein helpu ni i arbed bywyd.

“Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle yma, fel rhan o’r ymgyrch #AchubwchFywyd, i apelio ar bawb i dreulio ychydig funudau’n gweld sut mae pobl a allai fod yn fwy agored i niwed gan dân.

“Gallen nhw fod yn gymydog i chi, yn berthynas neu’n rhywun rydych chi’n gofalu amdano. Mae’r systemau larwm mwg yma yn cael eu monitro 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac maen nhw’n gallu cysylltu â’n hystafell reoli ni os bydd y larymau mwg yn canu –  gall teulu a ffrindiau gael sicrwydd o wybod y bydd rhywun wrth law mewn argyfwng. Mae’n hawdd cael gafael ar rai.

“Mae gan y rhan fwyaf ohonom bobl oedrannus neu bobl agored i niwed yn ein bywydau, sef pobl a allai fod angen help llaw. Un ffordd syml o helpu yw gwneud yn siŵr fod ganddynt larymau mwg gweithredol ar bob llawr o’u cartref.

“Gallwch chi arbed bywyd drwy dreulio ychydig funudau’n gweld sut mae pobl a allai fod yn fwy agored i niwed gan dân.

“Rydyn ni eisiau clywed gennych er mwyn adnabod yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed petaen nhw’n cael tân yn eu cartrefi.

“Gallwch chi gael mwy o gyngor drwy gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach drwy fynd i’n gwefan neu ffonio 0800 1691234 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydyn ni yma i helpu, a gyda’n gilydd gallwn ni arbed bywyd.”

 

Mae gwybodaeth ynglŷn â chadw’n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y fan yma.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen