Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cit Newydd o’r Radd Flaenaf i Gymru Gyfan

Postiwyd

Mae pecyn arloesol a gynlluniwyd gan ddiffoddwyr tân ar gyfer diffoddwyr tân wedi cael ei ddatgelu am y tro cyntaf erioed yng Nghymru.

Mae'n garreg filltir ac yn achos balchder i griwiau o Gymry a fu'n cydweithio i lunio'r dyluniad uwch newydd mewn prosiect dwy flynedd arloesol a arweiniodd at y contract terfynol gyda’r cyflenwr Ballyclare.

Roedd recriwtiaid newydd sbon o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o arddangos eu cit newydd am y tro cyntaf yn eu gorymdaith swyddogol yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd. Bydd y pecyn yn cael ei gyflwyno ar draws De, Gogledd a Chanolbarth a Gorllewin Cymru dros y deuddeg mis nesaf i gynorthwyo diffoddwyr tân i ddiogelu ein cymunedau yn y ffordd orau. 

 Mae’r cit tân Xenon yn ysgafn ac yn darparu'r amddiffyniad mwyaf posibl, gyda'r nod o leihau'r risg o straen o ganlyniad i wres, a all effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau, drwy leihau'r llwyth ffisiolegol ar y gwisgwr. Mae'r dyluniad arloesol â lefelau uchel o ran bod yn gyfforddus, gallu anadlu a rhyddid i symud, a sicrhau diogelwch thermol ardderchog gan gynnwys gallu gwrthsefyll dŵr a sychu'n gyflym.

 Dywedodd Huw Jakeway QFSM, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: 'Mae angen cit, cerbydau ac offer diogelu personol o'r radd flaenaf ar ein criwiau gweithredol i ymateb i argyfyngau amrywiol a diogelu ein cymunedau gorau y gallwn. Mae'n hanfodol bod ein criwiau'n gwisgo dillad amddiffyn personol â'r nodweddion technolegol a diogelwch diweddaraf. Mae hyn yn sicrhau bod gan ein criwiau’n cael eu hamddiffyn i’r eithaf a bod ganddynt bob ffydd yn eu hoffer. Mae gan dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru hanes hir a balch o gydweithio, ac mae hon yn enghraifft glir arall sy'n gwella diogelwch diffoddwyr tân gan sicrhau'r gwerth gorau. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y treialon a rhoi eu hadborth ar y dillad amddiffynnol hyn. Dyma git tân sydd mewn gwirionedd wedi cael ei gynllunio ac a fydd yn cael ei wisgo gan ddiffoddwyr tân ledled Cymru."

Cynhaliwyd treialon perfformiad ym mis Ebrill 2019 yn Earlswood lle cymerodd criwiau oedd yn cynrychioli Cymru gyfan ran yn y treialon helaeth i ddefnyddwyr terfynol. Cynhaliwyd y gwerthusiadau cynhwysfawr dros gyfnod o bum niwrnod, gyda phob set o offer yn cael ei werthuso mewn nifer o feysydd allweddol gan ddefnyddio senarios ymarferol. Roedd y rhain yn cynnwys: gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, gweithio ar uchder, rhedeg gyda phibellau dŵr, gweithio mewn mannau cyfyngedig, llusgo anafusion a gwisgo cyfarpar anadlu mewn tân poeth.

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae diogelwch diffoddwyr tân yn flaenoriaeth gennym - ac mae'r cit tân diweddaraf hwn yn gwella diogelwch a chysur ein diffoddwyr tân mewn argyfwng. Mae bod yn ddiffoddwr tân y dyddiau hyn yn golygu llawer mwy na mynychu tanau – roeddem am gael pecyn a allai helpu a chefnogi criwiau sy'n amddiffyn eu cymunedau mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau. Roedd adborth gan ddiffoddwyr tân yn treialu'r pecyn yn allweddol i'n helpu ni i ddewis y pecyn gorau posibl – a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r broses. Rydym yn falch o allu gweithio gyda chydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gaffael a phrynu'r pecyn tân newydd a fydd yn helpu i ddiogelu ein diffoddwyr tân mewn digwyddiadau ledled y wlad."

Yn dilyn y treialon perfformiad dwys, cynhaliwyd cynlluniau peilot yn defnyddio’r pecynnau a gyrhaeddodd y rhestr fer gynlluniau peilot mewn gorsafoedd. Yn ystod y cam olaf, cynhaliodd criwiau profiadol dechnegau a gweithdrefnau diffodd tân adrannol helaeth dan amodau heriol iawn yng Nghyfleustra Ymddygiad Tân Dolgellau.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Chris Davies QFSM, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, "Bob dydd, mae ein diffoddwyr tân yn peryglu eu bywydau er mwyn diogelu ein cymunedau. Mae diogelu ac amddiffyn ein diffoddwyr tân yn hollbwysig a dyna pam rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i roi'r Cyfarpar Diogelu Personol Strwythurol diweddaraf a gorau posib i'n diffoddwyr tân. Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyflwyno'r CDP Strwythurol newydd i'w ddiffoddwyr tân yn nes ymlaen eleni, ochr yn ochr â chysyniad arloesol sefPPmE, a fydd yn symleiddio'r ffordd y caiff CDP Strwythurol ei ddyrannu a'i reoli. Ni yw’r Gwasanaethau Tân ac Achub cyntaf yn y DU i gyflwyno’r cysyniad yma.

Drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol, sganwyr a thechnoleg adnabod amlder radio, bydd gan PPmE y gallu i ddilyn ac olrhain pob dilledyn sy'n cael ei gadw mewn unedau storio arbenigol mewn Gorsafoedd Tân. I grynhoi, bydd PPmE yn ein galluogi ni i sicrhau bod gan ein holl ddiffoddwr tân y modd i gyrchu eu maint priodol o ran CDP Strwythurol bob amser, yn ogystal â defnyddio CDP Strwythurol yn fwy effeithlon. Bydd hyn hefyd yn rhoi llawer mwy o reolaeth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dros ei asedau, drwy ddarparu gallu olrhain sydd bron â bod yn amser real."

Dywedodd llefarydd ar ran Ballyclare: "Yn Ballyclare, rydym yn cydnabod yr ystod eang a chynyddol o weithrediadau a gyflawnir gan ddiffoddwyr tân Cymru, felly cyfunom gryfder tynnol ardderchog y ffabrig PBI allanol gyda sianel awyr ddwbl wedi'i ffurfio gan y rhwystr lleithder a'r leiner i gael gwared ar wres, sicrhau'r amddiffyniad a'r gallu i anadlu i'r eithaf. Diffoddwyr tân yng Nghymru hefyd fydd y cyntaf yn y DU i elwa o ddatblygiad newydd ac arloesol o ran diogelwch, sef VizLite DT, fydd yn cynyddu eu gwelededd mewn gwyll neu dywyllwch. Mae Ballyclare yn falch iawn o ddarparu'r dyluniad blaenllaw arloesol hwn i ddiffoddwyr tân ledled Cymru."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen