Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd larwm mwg wedi i bump o blant a dwy ddynes gael dihangfa lwcus o dân ym Mhrestatyn

Postiwyd

Mae Swyddog Diogelwch Tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ac yn canmol ymateb cyflym cymydog cymwynasgar a seiniodd rybudd ac achub bywyd pump o blant a dwy ddynes o dân yn eu cartref ym Mhrestatyn.

Galwyd criwiau o’r Rhyl, Prestatyn ac Abergele i’r eiddo yn Rhodfa’r Tywysog, Prestatyn am 05.08 o’r gloch, Ddydd Sul Ebrill 18.

Cafodd y ddwy ddynes a’r pum plentyn eu rhybuddio am y tân wedi i’w cymydog weld fflamau a mynd i gnocio ar y drws nes deffro pawb.  

Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.

Cludwyd un ddynes i’r ysbyty am driniaeth ragofalol, a chafodd bawb arall driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan farwor o dân a oedd wedi bod yn llosgi y tu allan ac a ledaenodd ar hyd y ffens i fondo’r adeilad. Fe achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r to, difrod mwg 80% i weddill yr eiddo a difrod fflamau i gefn yr eiddo.

Meddai Mike Edwards o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd yn ddihangfa lwcus iawn - oni bai bod y cymydog wedi gweld y fflamau a gweithredu ar unwaith trwy redeg drws nesaf a chnocio ar y drws nes deffro pawb fe allem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad trasig iawn.

“Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ac ymarfer cynlluniau dianc - fe all tân ddigwydd pan nad ydych yn ei ddisgwyl, yn aml iawn gyda’r nos. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar er mwyn rhoi cyfle i bawb fynd allan yn ddiogel. Mae hefyd werth meddwl sut y byddech chi’n dianc mewn achos o dân, a sicrhau bod eich goriadau mewn lle cyfleus er mwyn i chi allu agor drysau sydd wedi eu cloi. Yn yr achos hwn nid oedd y trigolion yn gallu dod o hyd i oriad y drws ffrynt ac roedd yn rhaid iddynt fynd allan drwy’r drws cefn lle’r oedd y tân. Fe all gorfod ymateb i dân ynghanol y nos eich gwneud chi’n ddryslyd iawn - fe all cynllunio ymlaen llaw ac ymarfer eich cynllun dianc gyda’ch teulu wneud gwahaniaeth mawr.

 “Credir bod y tân wedi ei achosi gan dân a oedd  wedi bod yn llosgi mewn cynhwysydd y tu allan ar ôl llosgi gwastraff gardd yn gynharach y noson honno.

“Gair o rybudd - fe all tanau ledaenu’n gyflym iawn ac mae’n anodd iawn eu darogan.

“Rydym wedi cael ein galw at danau di-rif sydd wedi lledaenu o’r tu allan i mewn i’r eiddo.

“Weithiau mae pobl yn llosgi gwastraff neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml iawn yn yr ardd gefn. Rydym yn eich cynghori i beidio â gwneud hyn. Gofynnwn i drigolion gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol a defnyddio’r safleoedd mwynder dinesig os oes modd. Os oes raid i chi gynnau tân, yna  byddwch yn gyfrifol, gwnewch yn siŵr bod gennych fesurau rheoli ar waith ac ystyriwch yr effaith a all ei gael ar dai cyfagos.

“Rydym am gadw ein cymunedau’n ddiogel, ac felly rydym yn cynnig archwiliad diogel ac iach rhad ac am ddim i bawb - bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cyngor i chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a darparu larymau mwg newydd - a’r cyfan am ddim.

“I gofrestru am archwiliad diogel ac iach, ffoniwch ein rhif ffôn 24 awr ar 0800 169 1234.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen