Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch genedlaethol i recriwtio diffoddwyr tân ar alw - cyfle i bobl sydd eisiau mwy

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân i annog pobl i edrych ar y cyfleoedd y mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn eu cynnig i bobl sydd yn awyddus i weithio yn a helpu eu cymuned leol trwy ddod yn ddiffoddwyr ân ar-alw.  

Mae’r ymgyrch #EisiauMwy, sy’n cael ei chynnal am y trydydd tro eleni rhwng 1af-7fed Mawrth yn amlygu’r cyfleodd sydd ar gael i bobl o bob cefndir. Cefnogir yr ymgyrch drwy wefan genedlaethol - www.oncallfire.uk - sydd yn galluogi i bobl ddod o hyd i fwy o wybodaeth am rolau ar-alw a chysylltu gyda Gwasanaeth Tân a Achub Gogledd Cymru unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Mae gweithio fel diffoddwr tân ar-alw yn golygu bod yn rhan o weithgareddau eang yn lleol yn cynnwys ymateb i alwadau brys a gweithio gyda chymunedau lleol i gefnogi eu hanghenion neu ddarparu cyngor ataliol i gadw pobl yn ddiogel.

Am hyn fe all y gwasanaeth tân eich galluogi i weithio’n hyblyg o amgylch eich astudiaethau, prif gyflogaeth ac ymrwymiadau teuluol, darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu o’r radd flaenaf a chyfle i wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol.  

Meddai Paul Jenkinson, Uwch Reolwr Gweithrediadau: “Mae diffoddwyr tân ar-alw  yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r rôl yn gofyn llawer, yn anrhagweladwy, cyffrous a gwerth chweil ynghyd â’r boddhad a pharch a ddaw yn sgil darparu gwasanaeth allweddol i’r gymuned leol. 

“Mae croeso i unrhyw un ymgeisio os allant roi o’u hamser i’r Gwasanaeth ac os ydynt eisiau amddiffyn eu cymuned, cyn belled eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

“Mae ein proses recriwtio wedi ailgychwyn ond mae rheoliadau llym yn dal i fod ar waith ac rydym yn prosesu ymgeiswyr yn seiliedig ar anghenion y gorsafoedd tân y maent yn ymgeisio amdanynt.

“Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sydd yn gallu darparu gwasanaeth yn ein gorsafoedd gwledig.” 

“Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar-alw yn Aberdyfi, Abersoch, Amlwch, y Bala, Biwmares, Benllech, Betws-y-Coed, Cerrigydrudion, Corwen, Harlech, Llangefni, Llanrwst, Porthaethwy, Porthmadog, Llanelwy, Tywyn. Ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk am fwy o wybodaeth.”

Meddai Joe Hassell, Arweinydd Ar-alw’r NFCC: “Mae cymunedau wedi gweld y gwaith gwych y mae’r Gwasanaeth Tân wedi ei gyflawni i’w cefnogi yn ystod y pandemig Covid-19. Mae ein diffoddwyr tân ar-alw wedi bod yn rhan o weithgareddau amrywiol yn cynnwys helpu pobl i gadw’n ddiogel yn y cartref, gyrru ambiwlansys, dosbarthu bwyd a phresgripsiynau a chefnogi’r gwaith profi a brechu yn ogystal â pharhau i ddarparu ymateb brys. Trwy wneud y gweithgareddau hyn yn ogystal ag ymateb i argyfyngau arferol mae ein staff wedi helpu miloedd o bobl.  

“Mae nifer o bobl yn dymuno cefnogi eu hardal leol trwy ymuno â ni ond efallai nad ydynt wedi ystyried dod yn ddiffoddwyr tân. Nid oes amser gwell i helpu’ch cymuned leol a helpu i achub bywydau.  Dyma’ch cyfle i gael gweld a allech chi ymuno a  bod yn rhan o’r gwasanaeth tân.”

Mae gweithio i’r gwasanaeth tân yn golygu y byddwch yn rhan o dîm agos, ennill arian ychwanegol a derbyn hyfforddiant lawn a pharhaus i ddatblygu pob math o sgiliau gwaith a bywyd trosglwyddadwy. Mae’r gwasanaethau tân yn awyddus i sicrhau bod eu gweithlu yn adlewyrchu’r cymunedau lleol y byddant yn gweithio ynddynt ac felly maent yn croesawu ceisiadau gan bawb, nid oes angen unrhyw brofiad, ond bydd  rhaid i chi feddu ar y canlynol:

  • Awch i gefnogi’ch cymuned leol
  • Brwdfrydedd i fod yn rhan o dîm
  • Bod yn weddol ffit
  • Byw neu weithio o fewn amser ymateb penodol, fel arfer pum munud, i orsaf dân.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen