Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn Ddiogel y Nadolig Yma

Postiwyd

Wrth i deuluoedd fod yn brysur yn gwneud eu cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig, mae  Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n annog trigolion i gofio rhai awgrymiadau syml i gadw’n ddiogel yn ystod tymor y dathlu.

Meddai Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rydyn ni i gyd yn hoffi mwynhau ein hunain yn ystod y cyfnod gwyliau – ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio am ein diogelwch ein hunain a diogelwch ein hanwyliaid wrth i ni ddathlu.

“Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser i ymlacio ac i fwynhau bod gyda theulu a ffrindiau – ond mae’n hanfodol fod pawb ar eu gwyliadwriaeth er mwyn atal tân allai ddinistrio’r cartref a cholli anrhegion ac eiddo, dioddef anafiadau difrifol neu’n waeth, eich lladd chi neu rywun annwyl.

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cael dau ddigwyddiad gyda thannau o ganlyniad i goginio ym Mhandy ger Llangollen a Bangor lle bu’r trigolion yn ffodus i ddianc o’u tai. Yn y ddau ddigwyddiad yma, roedd y trigolion yn eu hwythdegau neu nawdegau ac wedi gadael bwyd yn coginio yn y gegin heb dalu sylw iddo.

“Mae mwy o dannau’n digwydd yn y gegin nag mewn unrhyw ystafell arall yn y tŷ – a does ond angen un peth i dynnu’ch sylw i’r tân gychwyn. Peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio a pheidiwch ag yfed a choginio – a gofynnwn i chi ein helpu i drosglwyddo’r neges yma i unrhyw aelodau hŷn neu fregus o’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion, os gwelwch yn dda.

“Rwy’n awyddus i ni oll weithio gyda’n gilydd i helpu i gadw’n cymunedau’n ddiogel – beth am feddwl yn ddiogel er mwyn cadw’n ddiogel.”

Mae Kevin yn annog pawb i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy ddilyn y deuddeng awgrym yma ar gyfer diogelwch tân dros yr ŵyl:

  1. Gwnewch yn siŵr fod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch all achub bywydau drwy ddiffodd y pŵer yn syth).
  2. Peidiwch byth â gosod canhwyllau’n agos at eich coeden Nadolig, dodrefn neu lenni. Peidiwch â’u gadael yn cynnau os nad oes rhywun yn yr ystafell.
  3. Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros gyda chi dros gyfnod yr ŵyl yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Cofiwch ymarfer cynllun dianc o’r adeilad.
  4. Gall addurniadau losgi’n hawdd – Peidiwch â’u gosod ar oleuadau neu wresogyddion.
  5. Diffoddwch offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, os nad ydynt wedi eu cynllunio i aros ymlaen.
  6. Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch y goleuadau a thynnu’r plwg o’r soced cyn mynd i’r gwely. Rydym yn defnyddio mwy o eitemau trydanol yn ystod y Nadolig – peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch socedi lluosog ar lid sydd â’r ffiws priodol ar gyfer mwy nag un offer. Gofynnwn i chi edrych ar y gyfrifiannell amp ar www.northwalesfire.gov.wales / Eich cadw chi'n ddiogel / Yn y Cartref / Gofalu am popeth Trydanol neu defnyddiwch y ddolen hon
  7. Mae’r mwyafrif o dannau’n digwydd yn y gegin – peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamweiniau, yn arbennig yn y gegin, yn uwch wedi yfed alcohol.
  8. Os ydych chi’n bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo a chadwch fwced o ddŵr wrth law.
  9. Gwnewch yn siŵr fod sigarennau wedi eu diffodd yn llwyr.
  10. Gwiriwch y batri yn eich larymau mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel adeg i’ch atgoffa i’w glanhau a chael gwared â llwch. Gallwch dderbyn larwm mwg rhad ac am ddim a chofrestru am wiriad diogel ac iach drwy ffonio 0800 1691234.
  11. Gwnewch yn siŵr fod canhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant.
  12. Gwnewch amser i gadw golwg ar berthnasau a chymdogion hŷn y Nadolig yma – gwnewch yn siŵr eu bod hwy’n ddiogel rhag tân hefyd, yn ogystal â meddwl am eu lles.

Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch Nadolig sy’n dechrau wythnos nesa ac fe allech ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen