Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn warws masnachol ger Bwcle

Postiwyd

Mae criwiau tân wedi bod yn delio â digwyddiad dros nos yn ymwneud â thân mewn warws fasnachol fawr ar ystâd ddiwydiannol yn Sir y Fflint.

Mae peiriannu tân yn parhau i fod yn bresennol y bore yma (dydd Mercher 17eg Tachwedd).

Cafodd peiriannau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu yrru i'r tân am 17.01pm ddoe (dydd Mawrth 16eg Tachwedd).

Yn anterth y digwyddiad, roedd wyth peiriant tân yn delio gyda'r tân yn y warws ar Ystâd Ddiwydiannol Spencer yn Drury ger Bwcle, a oedd yn effeithio ar sawl uned storio a oedd yn cynnwys llawer iawn o lyfrau. Cynghorwyd trigolion lleol i gau ffenestri a drysau fel rhagofal a chyhoeddwyd cyngor hefyd ar gyfer traffig i osgoi'r ardal.

Yn ogystal, defnyddiwyd peiriant ALP, pwmp cyfaint mawr ac uned rheoli digwyddiad.

Mae diffoddwyr tân yn bresennol y bore yma yn monitro’r mannau poeth sy’n weddill ac mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn bresennol i reoli’r traffig.

Nid yw achos dros y tân wedi'i gadarnhau eto.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen