Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch wrth goginio yn dilyn tân ym Mhandy gyda thri person yn mynd i’r ysbyty

Postiwyd

Mae Swyddog lleol yn canmol criwiau, yn diolch i’r gymuned leol ac yn tynnu sylw at ddiogelwch wrth goginio yn dilyn tân difrifol ym Mhandy, Llangollen ddoe pryd y bu raid i dri pherson fynd i’r ysbyty.

 

Galwyd criwiau i’r tŷ sengl am 16.16 o’r gloch ddoe (dydd Sul Tachwedd 14eg).

Pan oedd y digwyddiad ar ei anterth, roedd chwe chriw yno, gyda diffoddwyr tân o Langollen, Johnstown, Wrecsam, Cerrigydrudion a Bala yn ceisio diffodd y tân. Daeth criwiau o’r Waun, Wrecsam, Bwcle a’r Wyddgrug yn hefyd gyda’r nos a thros nos. Gadawodd y criwiau’r eiddo yn y bore.

Aethpwyd â’r tri oedd yn y tŷ i’r ysbyty, y tri ohonynt yn eu nawdegau, ac mae dau ohonynt, dyn a merch, yn dal yn yr ysbyty yn cael gwiriadau pellach.

 

Aeth Steve Houghton o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r digwyddiad. Meddai:

“I ddechrau, hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am gefnogi gwaith ardderchog ein criwiau wrth iddynt frwydro’r tân yma – fel rhan o’n gwaith, oherwydd lleoliad y tân, roeddem wedi defnyddio’r uned bwmpio dŵr gludadwy i gael dŵr o’r afon Ceiriog. Roedd pobl leol wedi’n helpu gyda’r broses hon, a bu hyn o gymorth i’r diffoddwyr tân i gael dŵr i ddiffodd y tân.

“Roedd hwn yn dân difrifol mewn adeilad mawr, ac fe weithiodd ein diffoddwyr tân yn dda mewn amgylchiadau anodd.

“Roedd y preswylwyr allan o’r tŷ wrth i ni gyrraedd, ac rwyf yn meddwl amdanynt hwy a’u teulu’n ystod yr amser pryderus yma – rydym ni i gyd yn gobeithio y byddant yn cael gwellhad llwyr.

“Roedd difrifoldeb y tân yn golygu fod rhaid cau ffordd, sef yr unig ffordd i’r dyffryn – unwaith yn rhagor, hoffwn ddiolch i’r bobl leol a’r rhai oedd yn teithio yn yr ardal am eu hamynedd.

“Mae’r difrod aruthrol yn dangos sut y gall tân fod mor ddinistriol – a dro ar ôl tro, rydym ni’n mynychu tannau mewn tai sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd i chi anghofio am eich coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, rhywbeth wedi mynd â’ch sylw neu os fyddwch wedi bod yn yfed.

"Mae ein neges yn glir – peidiwch byth a throi eich cefn ar eich coginio, hyd yn oed am funud. Gall tynnu eich sylw oddi ar eich coginio, arwain at ganlyniadau difrifol.

"Mae larymau mwg yn achub bywydau – gall y rhybudd cynnar a geir gan larymau mwg roi munudau hanfodol i’ch helpu i ddianc yn ddianaf.

“Byddwn yn gofyn i bawb ystyried aelodau hŷn neu fregus o’u teuluoedd neu eu cymdogaeth, gan wneud yn siŵr eu bod hwy’n ddiogel hefyd.

“Am wiriad diogel ac iach rhad ac am ddim, ffoniwch ein rhif rhadffon 0800 169 1234, e-bostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk  neu ewch i’n gwefan  www.northwalesfire.gov.wales.”

 Awgrymiadau pwysig am ddiogelwch yn y gegin:

  • Os ydych yn gadael yr ystafell, symudwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis neu daniwr i oleuo cwcer nwy. Mae dyfeisiau gwreichion yn fwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw handlenni wedi eu troi oddi wrth ymyl y cwcer
  • Cadwch y popty, hob a’r gril yn lân – mae braster a saim sy’n ymgasglu’n gallu mynd ar dân yn hawdd
  • Peidiwch byth â hongian dim i sychu uwchben y cwcer
  • Byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd popeth
  • Diffoddwch beiriannau trydan pan nad ydych y eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion – defnyddiwch ffriwr saim dwfn wedi ei reoli â thermostat
  • Peidiwch byth â choginio ar ôl yfed – ewch i nôl bwyd tecawê
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg – maen nhw’n rhad ac am ddim ac fe allent achub eich bywyd.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen