Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Groes Goch Brydeinig yn ffurfio partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gynorthwyo mewn argyfyngau

Postiwyd

 

Ym mis Hydref dechreuwyd partneriaeth arloesol rhwng y Groes Goch Brydeinig a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fydd yn cydweithio i gefnogi pobl a effeithir gan argyfyngau ar draws Gogledd Cymru.

 

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu pobl mewn argyfwng, pwy bynnag ydynt, ble bynnag y bônt, tra bo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n helpu i amddiffyn poblogaeth o tua 678,461 dros ardal o 2,400 milltir sgwâr yn ogystal â channoedd o filoedd o dwristiaid ac ymwelwyr sy’n dod i Ogledd Cymru bob blwyddyn.     

 

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn ymateb i geisiadau gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynychu galwadau ar draws Gogledd Cymru, gan gynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’r rhai a effeithir. Mae tîm a cherbyd Ymateb Brys y Groes Goch Brydeinig, a arweinir gan wirfoddolwyr, wedi eu lleoli yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn a bydd cerbyd arall yn Wrecsam yn fuan.

 

Mae tîm Ymateb Brys y Groes Goch Brydeinig, sydd wedi eu hyfforddi isafon uchel, yn wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser am ddim, ac yn ymateb i ddigwyddiadau 365 diwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd. Maent yn helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio’n ystod ac ar ôl argyfyngau, gan gefnogi gwaith yr asiantaethau statudol, megis y Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Maent yn defnyddio cerbydau sydd wedi eu haddasu’n arbennig, gyda chyflenwad o eitemau ymarferol i gefnogi pobl, megis dillad, blancedi a phecynnau hylendid. Gall y tîm fynychu gwahanol fathau o ddigwyddiadau i gefnogi pobl mewn argyfyngau fel tannau mewn tai, llifogydd neu ddigwyddiadau mawr. 

 

Mae Aimee Thomas yn swyddog Ymateb Brys gyda’r Groes Goch Brydeinig yng Ngogledd Cymru ac fe ddechreuodd fel gwirfoddolwr chwe blynedd yn ôl. Wrth siarad am ei gwaith gyda’r Groes Goch, meddai Aimee:

 

“Rydw i wedi gwirfoddoli mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ers pan oeddwn yn fy arddegau. Pan oeddwn yn hŷn, roeddwn yn chwilio am gyfle lle gallwn helpu rhai mewn angen. Roeddwn yn gwybod bod y Groes Goch yn helpu pobl dramor ond doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod yn ymateb i argyfyngau yma yn y DU hefyd.

Cynigais fy enw fel gwirfoddolwr Ymateb Brys ac roeddwn wrth fy modd gymaint gyda’r sefydliad, yr hyn a gynrychiolai a’r effaith a gai ar fywydau pobl, nes i mi fachu ar y cyfle i weithio i’r tîm Ymateb Brys pan ddaeth y cyfle rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Erbyn hyn, rwyf wedi bod gyda’r Groes Goch dros chwe blynedd ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle nesaf i wirfoddoli er mwyn helpu ein cymuned leol.” 

 

Wrth sôn am gydweithio’n agosach gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, meddai Aimee:

“Bydd y gwasanaeth arloesol hwn rydym yn ei sefydlu mewn partneriaeth yn ein galluogi i gefnogi’n cymuned leol. Gall bod mewn tân tŷ, llifogydd neu ddigwyddiad mawr fod yn brofiad trawmatig – does gan lawer o bobl ddim syniad beth i’w wneud nesaf.

 

“Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn ein galluogi i helpu pobl mewn angen. Mae gan ein gwirfoddolwyr sgiliau arbennig i gynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’w helpu gyda chanlyniadau digwyddiad. Gallwn gynnig y gefnogaeth syml o baned o de ynghyd â lle diogel i eistedd, dillad glân a chefnogaeth gyda’r camau nesaf yn dilyn argyfwng.

 

Meddai Henry Barnes, Rheolwr Ymateb Brys y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru: “Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ehangu ein cefnogaeth yn ystod argyfyngau, gan wneud yn siŵr fod cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar gael i bobl ble bynnag a phryd bynnag y bydd argyfwng yn digwydd.

 

“Mae’r Groes Goch Brydeinig yn rhoi pobl a chymunedau wrth galon eu cynllunio. Drwy’r bartneriaeth hon, bydd gwirfoddolwyr yn helpu mwy o bobl hyd yn oed mewn argyfyngau, gan gydweithio â’r Gwasanaeth Tân i wneud amser sy’n bryderus iawn i bobl ychydig yn haws i’w wynebu.”

 

Meddai Paul Jenkinson, Uwch Swyddog Gweithrediadau o’r Gwasanaeth Tân ac Achub: “Yn aml, mae’r digwyddiadau y cawn ni ein galw iddynt, yn cael effaith fawr ar fywydau’r bobl a ddelir yn eu canol – gallant arwain, yn drasig iawn, at golled neu anaf difrifol. Hefyd, mae’n bosib fod y bobl angen help i drefnu elfennau neu dasgau ymarferol yn dilyn digwyddiad mawr megis tân neu lifogydd.

“Bydd y bartneriaeth hon yn golygu fod cydweithwyr o’r Groes Goch wrth law i allu cynnig cefnogaeth emosiynol ac arweiniad i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng.

“Rydym ni mor falch o gael gweithio gyda’r Groes Goch drwy’r bartneriaeth newydd ac arloesol yma ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr mewn digwyddiadau i amddiffyn ein cymunedau.”

I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda’r Groes Goch Brydeinig, ewch i http://www.redcross.org.uk i ddod o hyd i gyfle yn eich hardal chi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen