Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i fusnesau gynnal asesiad risg tân yn dilyn tân yn Ystâd Ddiwydiannol Spencer

Postiwyd

Mae'r arweinydd ar gyfer Diogelwch Tân Busnes Wrecsam a Sir y Fflint yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar bob busnes i sicrhau eu bod yn cynnal asesiad risg tân ac yn ei adolygu'n rheolaidd.

Mae hyn yn dilyn tân masnachol mawr a ddigwyddodd ar Ystâd Ddiwydiannol Spencer, Bwcle nos Fawrth. Fe wnaeth y tân effeithio ar nifer o fusnesau, ac mae'r achos yn dal i gael ei ymchwilio.

Mae Neil Upton, Rheolwr Cydymffurfiaeth Wrecsam a Sir y Fflint yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn rhoi'r cyngor canlynol i berchnogion a gweithredwyr busnes:

"Er mwyn diogelu eich busnes rhag effeithiau dinistriol tân, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnal Asesiad Risg Tân a'i adolygu'n rheolaidd.

"Bydd hyn yn eich helpu i adnabod ffynonellau tanio a ffynonellau tanwydd a allai ddechrau tân.

"Dylech ddeall sut y bydd tân yn cael ei ganfod a sut y byddwch chi, eich cwsmeriaid a'ch staff yn gadael yr adeilad hefyd.

"Dylech sicrhau bod yr holl drydan yn adeiladau eich busnes yn cael ei wirio gan berson cymwys, a bod offer a pheiriannau trydanol yn cael eu gwirio a'u cynnal a'u cadw'n rheolaidd hefyd.

"Dylai'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer canfod tân a chodi'r larwm gael eu profi a'u harchwilio i gadarnhau eu bod yn gweithio'n iawn, ac mae angen i staff wybod yn union beth i'w wneud os bydd tân."

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am sut i ddiogelu eich busnes rhag tân, ewch i wefan NWFRS - www.northwalesfire.gov.wales

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen