Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tynnu sylw at bwysigrwydd larymau mwg ar ôl i ddiffoddwyr tân achub dynes o’i chartref yn Sir y Fflint

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn tynnu sylw at bwysigrwydd larymau mwg ac mae’n apelio ar drigolion i gadw dillad a deunyddiau ymhell oddi wrth danau agored neu losgwyr coed ar ôl i ddynes orfod cael ei hachub o dân yn ei chartref yn Higher Kinnerton.

Cafod diffoddwyr tân o Lannau Dyfrdwy eu galw at yr eiddo ar y Brif Ffordd yn Higher Kinnerton am 18.52 o’r gloch heno (nos Sul 3ydd Hydref) ar ôl i’r breswylwraig, sef gwraig yn ei chwe degau, arogli mwg.

Gan ei bod yn teimlo ei bod yn methu gadael yr eiddo’n ddiogel, cafodd gyngor am ddulliau goroesi tân dros y ffôn gan un o’r gweithredwyr yn yr ystafell reoli. Dywedwyd wrthi aros mewn un ystafell, a rhoddwyd sicrwydd ac arweiniad iddi nes i’r criwiau tân gyrraedd.

Aeth y diffoddwyr tân i mewn i’r eiddo yn gwisgo offer anadlu, gan lwyddo i achub y ddynes a’i thri chi.

Cafodd y ddynes archwiliadau rhagofalus yn y fan a’r lle gan barafeddygon, ac aethpwyd â hi i’r ysbyty gan ei bod wedi anadlu mwg.

Credir bod y tân wedi cychwyn oherwydd dillad a oedd yn sychu o flaen llosgwr coed ar lawr gwaelod yr eiddo.

Dywedodd Dave Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r digwyddiad hwn eto’n dangos mor bwysig yw cael larymau mwg sy’n gweithio. Maen nhw’n gallu rhoi rhybudd cynnar a’ch galluogi i ddianc yn gyflym a diogel os oes tân. Gallant roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999.

“Hoffwn ganmol y gweithredwr yn yr ystafell reoli a’r criwiau am eu gweithredoedd – roedd y cyngor ar oroesi tân a roddwyd i’r wraig hon yn sicr wedi ei helpu i’w chadw’n ddiogel a sicrhau nad oedd hi’n cynhyrfu, a llwyddodd y diffoddwyr tân i’w hachub yn gyflym ac effeithiol.

“Credir bod y tân wedi cychwyn oherwydd dillad a oedd yn sychu o flaen llosgwr coed – cadwch ddillad a deunyddiau ymhell oddi wrth danau agored, llosgwyr coed a thanau trydan bob amser.

“Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach yn rhad ac am ddim i bawb yn yr ardal - bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cynghorion ac awgrymiadau i’ch helpu i greu cynllun dianc a byddant yn darparu larymau newydd - a’r cwbl am ddim.

“I gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach yn rhad ac am ddim, ffoniwch ein rif ffôn Rhadffon rhwng 9am a 5pm ar 0800 169 1234, e-bost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i’r wefan, www.northwalesfire.gov.wales”. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen