Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i fod yn ofalus ar ddechrau’r tymor llosgi dan reolaeth

Postiwyd

Mae’r tymor llosgi grug a glaswellt yn dechrau heddiw ac mae diffoddwyr tân yn annog ffermwyr, tirfeddianwyr a thrigolion ledled y rhanbarth i fod yn eithriadol o ofalus ac i gofio rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub os byddant yn llosgi ar eu tir.

Mae’r Cod yn dweud bod llosgi’n cael ei ganiatáu rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn unig ar diroedd uchel, a rhwng 1 Tachwedd ac 15 Mawrth ymhob man arall.

Dywedodd Paul Scott, yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Bydd llawer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir gan fod y tymor llosgi dan reolaeth wedi dechrau – rydym yn deall yr angen am hyn ond rydym eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt a rhoi gwybod i ni cyn i ddechrau llosgi.

“Yn ogystal â ffermwyr, rydym yn ymwybodol fod pobl weithiau’n llosgi sbwriel neu bethau nad ydynt eisiau ar eu tir, a hynny’n aml yn eu gardd gefn. Rydym yn cynghori pobl i beidio â gwneud hyn gan roi gair o gyngor – gall tanau ymledu’n gyflym ac mae’n anodd iawn rhagweld beth fydd yn digwydd. Byddem yn apelio ar bobl i gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol ac i ddefnyddio safleoedd amwynderau’r sir pan fo modd. Os oes raid i chi losgi, gwnewch hynny’n gyfrifol, gan wneud yn siŵr fod mesurau rheoli wedi cael eu sefydlu ac ystyried yr effaith bosibl ar eiddo cyfagos.

“Bob blwyddyn, yn ystod y tymor llosgi dan reolaeth, byddwn yn derbyn llawer o alwadau diangen ac achosion o losgi dan reolaeth sydd wedi ymledu, gan arwain at ddinistrio tir ac eiddo, ac at niwed i ecoleg ein tirweddau – yn ogystal â defnyddio adnoddau y gallem fod yn eu defnyddio’n well yn rhywle arall.

“Felly, dyma annog unrhyw un sydd am losgi dan reolaeth i roi gwybod i ni yn gyntaf drwy ffonio’r ystafell reoli er mwyn helpu i osgoi galwadau diangen ac anfon criwiau tân heb fod eisiau.

"Rydym yn gofyn i bawb fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Cydweithiwch gyda ni i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Os ydych chi’n bwriadu llosgi dan reolaeth, dilynwch y canllawiau isod:

  • Ffoniwch ystafell reoli GTAGC ar 01931 522006 i ddweud wrthynt ymhle a phryd y byddwch yn llosgi
  • Gwnewch yn siŵr fod digon o bobl ac offer ar gael i reoli’r tân
  • Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a gwneud yn siŵr nad oes risg i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
  • Os bydd tân yn mynd allan o reolaeth, cysylltwch â’r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith a dweud ble mae’r tân a sut i’w gyrraedd
  • Gwnewch yn siŵr bob amser fod tân wedi diffodd yn llwyr cyn ei adael, ac edrychwch y diwrnod wedyn i wneud yn siŵr nad yw’r tân wedi ailgynnau
  • Cofiwch – mae’n anghyfreithlon gadael tân heb gadw golwg arno neu fod heb ddigon o bobl i’w reoli.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen