Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Arestio llanc mewn cysylltiad â'r tân ym Mlaenau Ffestiniog

Postiwyd

Mae'r Heddlu yn ne Gwynedd heddiw Dydd Mercher 24 Ebrill wedi arestio llanc 16 oed yng nghyswllt y tân ym Mlaenau Ffestiniog dros Wyl y Banc. 

Mae'r llanc wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol, achosi niwsans cyhoeddus ac ymosod ar Swyddog Heddlu ac mae'n cael ei holi ar hyn o bryd yng Ngorsaf yr Heddlu Caernarfon. 

Arestiwyd dyn arall ar yr un pryd am rwystro swyddogion yr Heddlu. Meddai Arolygydd Matt Geddes: “Mae'r tân yn cael ei drin fel trosedd a roddodd nifer o bobl a busnesau mewn peryg gan achosi i bobl orfod gadael eu cartrefi."

 “Rydym yn apelio am dystion i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am y digwyddiad hwn er mwyn dod â'r rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell, fel y gall digwyddiadau tebyg gael eu hatal yn y dyfodol."

Meddai Gavin Roberts, Uwch-reolwr Safonau Proffesiynol a Gwasanaethau, Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae tanau gwair bwriadol yn peryglu bywydau - defnyddiwyd adnoddau prin am gyfnod hir oherwydd y digwyddiad hwn gan roi ein diffoddwyr tân a thrigolion lleol mewn peryg."

 “Os yw'r gwasanaethau tân yn gorfod treulio amser yn diffodd tanau bwriadol mae llai o amser ganddynt i ddelio ag argyfyngau eraill fel tanau mewn tai neu ddamweiniau traffig."

“Gall tanau gwair bwriadol wneud difrod difrifol i gefn gwlad a'r amgylchedd gan ddinistrio bywyd gwyllt ac anifeiliaid gan greu cost o filiynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.

“Rydym yn gweithio yn agos gyda'n cydweithwyr yn yr Heddlu i ddal pwy bynnag sy'n cychwyn tanau yn fwriadol a byddwn yn cefnogi erlyniadau."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru neu ddefnyddio'r wefan https://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support . Fel arall ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen