Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ ym Mwcle

Postiwyd

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân y Mwcle.  

Cafodd  chwech o drigolion eu trosglwyddo i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg yn dilyn y digwyddiad.

Anfonwyd dwy injan o Bwcle a Glannau Dyfrdwy i adroddiadau o dân yn Alyn Road, Bwcle am 04.53 o’r gloch y bore yma (Dydd Sul 13eg Ionawr).

Defnyddiodd y criwiau ddwy bibell dro, pedair set o offer anadlu a chamera delweddu thermol i daclo’r tân a oedd wedi ei gyfyngu i’r ystafell fyw.

Meddai Bob Mason o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd dynes yn ei 40au, dyn 26 oed, tri o fechgyn yn eu harddegau a geneth yn ei harddegau yn cysgu ar adeg y tân. 

“Cafodd y trigolion ddihangfa lwcus ac ni achoswyd unrhyw ddifrod mwg i’r eiddo.

“Rwyf yn apelio ar drigolion i sicrhau bod ganddynt larwm mwg a’i brofi’n rheolaidd. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân i’ch galluog chi a’ch teulu i ddianc yn ddiogel o dân.”

Mae ymchwiliad ar y cyd i achos y tân wrthi’n cael ei gwblhau gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen