Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

  Tân mewn fflat yng Nghaernarfon yn amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio

Postiwyd

 

Mae Swyddog Tân yn amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio a phwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân mewn fflat yng Nghaernarfon yn ystod oriau mân y bore yma.  

Galwyd dau griw o Gaernarfon at dân mewn cegin yn Llys Buddyg, Pendalar, Caernarfon am 01.39 o’r gloch y bore yma (Dydd Llun 9fed Gorffennaf).

Cafodd y preswylydd ei rybuddio am y tân gan larymau mwg a oedd wedi eu gosod yn yr eiddo.

Achoswyd y tân gan fwyd a oedd wedi ei adael yn coginio a chafodd un person driniaeth o ganlyniad i anadlu mwg.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn: “Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw at danau sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â’ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

" Mae ein neges yn glir – peidiwch byth â throi eich cefn ar eich coginio, hyd yn oed am funud. Mae gadael unrhyw fwyd yn coginio, ond yn enwedig sosban sglodion, am unrhyw gyfnod o amser yn medru arwain at ganlyniadau erchyll. Gall yr olew yn y sosban or-boethi’n hawdd a mynd ar dân – gall y peth lleiaf arwain at dân mewn mater o eiliadau. Mae sglodion popty yn fwy diogel ynghyd â bod yn iachach, ond os ydych yn dewis ffrio, peidiwch â throi eich cefn ar y sosban. Os bydd yr olew yn tanio, peidiwch â thaflu dŵr arno. Ewch allan o’r tŷ, arhoswch allan a ffoniwch 999. Peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun. Yn well fyth – taflwch eich hen sosban sglodion i ffwrdd a defnyddiwch beiriant ffrio gyda rheolydd thermostatig.

"Mae larymau mwg yn achub bywydau.  Mae’r rhybudd cynnar gan larwm mwg yn rhoi cyfle i chi fynd allan yn ddiogel.  Sicrhewch eich bod yn cynnal a chadw’ch larwm mwg drwy ei brofi unwaith yr wythnos.”

 Gair i gall ar ddiogelwch yn y gegin:

  • Os oes raid i chi adael yr ystafell tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn fwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr bod dolenni sosbenni wedi eu troi oddi wrth ochr y cwcer
  • Cadwch y popty, hob a’r gridyll yn lân - fe all saim a braster fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch byth â hongian dim byd uwch ben y cwcer
  • Cymrwch bwyll os ydych yn gwisgo dillad llac gan eu bod yn gallu mynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl gorffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydan os nad ydych chi’n eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn gyda thermostat i reoli’r gwres
  • Peidiwch â choginio ar ôl bod yn yfed – prynwch tecawê
  • Gosodwch larymau mwg – maent am ddim ac fe allant achub eich bywyd.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen