Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Myfyrwyr Coleg Cambria yn cael eu hysbrydoli gan gwrs Ffenics

Postiwyd

Mae myfyrwyr o Goleg Cambria wedi elwa o fynychu cwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf fel rhan o raglen gyda’r bwriad o wella cyflogadwyedd hirdymor.

Dyluniwyd y cwrs Ffenics i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc tuag at weithgareddau cynhyrychiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo i’w hintegreiddio gyda’u cyfoedion a chymunedau.

Arddangoswyd sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos mewn seremoni lwyddo a fynychwyd gan rieni, gwarcheidwaid a staff o’r coleg.    

Mae’r cwrs 5 diwrnod hwn, a leolwyd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug, yn rhan o raglen 6 wythnos gan Goleg Cambria.

Bydd rhai o’r dysgwyr ar y cwrs yn mynd ymlaen i gaael eu cyfweld ar gyfer lleoliadau blwyddyn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel rhan o bartneriaeth i helpu i ddatblygu unigolion a’r paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Meddai Kevin Roberts, Uwch Swyddog Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae gan y Gwasanaeth Tân ac Achub atyniad cryf i bobl ifanc, sy’n rhoi cyfle i ni i geisio dylanwadu ar ymddygiad.

“Made’r prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.

“Roedd y dysgwyr ar y cwrs hwn ar raglen gyda Choleg Cambria – rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc 16-18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi eu hadnaod fel rhai sydd â phethau’n eu rhwystro rhag symud ymlaen.

“Mae’r wythnos wedi cynnwys dysgu yn y dosbarth, lle mae’r bobl ifanc yn cael dysgu am ganlyniadau gweithredoedd, ac yna gweithgareddau yn yr iard ymarfer lle rydym yn hyrwyddo gweithio fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.

“Nod y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gael eu cymell a bod yn fwy cadarnhaol ynglŷn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

"Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc hyn yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o’r prosiect Ffenics ac y bydd o fudd iddyn nhw yn y dyfodol.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu nifer o’r unigolion hyn yn ôl i gael cyfweliad ar gyfer ein cyfleoedd lleoliad gwaith, gan helpu i amddiffyn ein cymunedau trwy gryfhau cysylltiadau a gofalu am les cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Carol Ann Probert, Mentor Cyflogadwyedd Hyfforddiaethau, Coleg Cambria:

“Mae gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhan bwysig o’r rhaglen Hyfforddeion – mae’r cyfleoedd maent yn eu rhoi i bobl ifanc yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau perthnasol a rhai pwysig y gellir eu trosglwyddo er mwyn iddyn nhw symud ymlaen.

“Mae’r rhaglen Ffenics yn benodol yn arddangos sgiliau a nodweddion nad oedd y bobl ifanc yn sylweddoli roedd ganddyn nhw.

“Mae’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w hunan-hyder a’u hunan-barch yn medru newid bywyd i rai o’n dysgwyr.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen