Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hyrwyddo diogelwch tân yn Asda

Postiwyd

Bydd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor diogelwch tân ar gyfer y cartref i siopwyr yn  Asda ddydd Sadwrn 28ain Ebrill.

Mae gwasanaethau tân yn darparu’r wybodaeth yma i gefnogi’r cydweithio rhwng Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân  (NFCC) ac Asda. Mae’r archfarchnad yn awyddus i roi cyfle i’r gwasanaethau tân helpu i gadw pobl yn ddiogel.  Maent wedi cynnig 100 o’u siopau i’n galluogi i rannu ein negeseuon diogelwch fel rhan o Ddiwrnod Ffocws ar Dân a Diogelwch Tân Cenedlaethol.

Fel rhan o Ddiwrnod Diogelwch Tân Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân  (NFCC) ac Asda bydd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynd draw i’r siopau Asda canlynol:

Y Fferi Isaf

Bangor

Llandudno

Hefyd, yn ogystal â chyngor diogelwch tân ar gyfer y cartref bydd cyfle i gael gwybodaeth a chyfarwyddyd ar rai o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi a’ch teulu neu’ch ffrindiau gan eich gwasanaeth tân ac achub lleol.

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn argymell bod gan bob cartref o leiaf un larwm mwg ar bob lefel. Gwnewch yn siŵr bod y larwm wedi ei osod mewn man lle gallwch ei glywed – hyd yn oed trwy ddrws caeedig.

“Profwch eich larwm bob wythnos. Fe all larwm mwg roi cyfle i chi fynd allan mewn achos o dân, ond dim ond os ydyw’n gweithio’n iawn.

“Cymrwch bwyll wrth goginio – mae tua hanner y tanau damweiniol sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin.  Peidiwch â gadael i ddim byd dynnu’ch sylw tra byddwch yn coginio a pheidiwch  â choginio ar ôl yfed alcohol.”

Meddai Stewart Edgar Arweinydd Atal Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân  (NFCC): “Mae’n wych bod Asda wedi rhoi cyfle i wasanaethau tân yn y DU gwrdd â’u cwsmeriaid a chynnig cyngor achub bywyd ar atal tanau.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn  sicrhau bod help yn cael ei gynnig i’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen, ac y bydd ein presenoldeb yn eu hatgoffa y dylai atal tanau fod yn rhan o fywyd arferol – yn union fel piciad i’r archfarchnad.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen