Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân yn anelu i gyrraedd brig y siartiau’r Nadolig hwn

Postiwyd

Mae tri aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda diffoddwyr tân o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i recordio sengl gyda’r nod o gyrraedd brig y siartiau’r Nadolig hwn.

 

Ar y 30ain o Dachwedd, 2018,fe lansiodd y grŵp ‘The Fire Tones’ eu hymgais i gyrraedd brig y siartiau senglau a bod yn Rhif Un yn Siartiau’r Nadolig.

 

Gweledigaeth y Diffoddwr Tân Chris Birdsell-Jones o’r Trallwng oedd sefydlu’r grŵp, ac roedd am weld criw o ddiffoddwyr tân yn cyrraedd brig y siartiau gyda’r clasur Nadoligaidd, “Do they know it’s Christmas?”.

 

Fe aeth Chris ati i gysylltu gyda gwasanaethau tân ac achub o bob cwr o’r Deyrnas Unedig - ac roedd Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau a’r Diffoddwyr Tân Ystafell Reoli, Bethan Jones a Gwenan Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i gymryd rhan ac felly fe aethant draw i Firmingham fis diwethaf i recordio’r trac.

 

Mae Paul, sydd yn dod o Wrecsam, yn gweithio yn ein safle yn y Rhyl ac mae Bethan, sydd yn dod o ardal Bae Colwyn, a Gwenan, sydd yn dod o ardal Bodelwyddan, yn gweithio yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy. Fe wnaethant ymuno gyda chydweithwyr o wasanaethau tân ac achub o bobl cwr o’r Deyrnas Unedig i berfformio’r sengl i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân a’r elusen Band-Aid Charity Trust.

 

Mae Paul, Bethan a Gwenan nawr yn apelio ar drigolion yng Ngogledd Cymru i’w cefnogi hwy a’u cyd-aelodau o’r Fire Tones i helpu’r sengl elusennol gyrraedd Rhif 1.

 

Mae Bethan yn egluro: "Mae’r Fire Tones yn cynnwys 40 o aelodau o wasanaethau tân ac achub o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a ddaeth at ei gilydd i recordio’r gan mewn stiwdio. Alla i ddim disgwyl tan y bydd y sengl yn cyrraedd y siopau ar Dachwedd y 30ain!"

 

Meddai Gwenan: "Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy ac roedd yn gyfle gwych i gwrdd ag aelodau staff o wasanaethau tân ac achub eraill yn ogystal â bod yn rhan o ymgyrch i godi arian i ddwy elusen haeddiannol iawn."

 

Fe ychwanegodd Paul: "Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel hyd yma ac mae’r sengl wedi cael cefnogaeth gan y canwr a’r cyflwynydd Aled Jones hyd yn oed sydd wedi postio’r fideo a gair o gefnogaeth Facebook.

 

“Plîs cefnogwch The Fire Tones, Elusen y Diffoddwyr Tân a’r Elusen Band-Aid a rhannwch y newyddion am ein hymgais i gyrraedd Rhif 1 - dewch i ni fynnu’n lle ar frig siartiau’r Nadolig!"

 

 

Mae sengl ‘The Fire Tones’ nawr ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar Amazon a bydd yn cael ei ryddhau ar iTunes, Spotify ac Amazon Music ddydd Gwener, 30 Tachwedd.

 

Gwrandewch ar glip o’r sengl ar wefan The Fire Tones https://thefiretones.com/

Dilynwch The Fire Tones ar

Facebook: https://www.facebook.com/thefiretones999/

Twitter: @thefiretones999

Instagram: https://www.instagram.com/thefiretones999/?utm_source=ig_embed&utm_medium=loading

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen