Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu peryglon sychwyr dillad yn dilyn cwest i’r tân yn Llanrwst  

Postiwyd

 

Mae peryglon posib  peiriannau sychu dillad wedi cael eu hamlygu  yn dilyn y cwest i’r tân trasig mewn fflat yn Llanrwst ddydd Gwener 10fed  Hydref 2014 a laddodd ddau ddyn.

Yn ystod y cwest i’r digwyddiad a gynhaliwyd heddiw (Dydd Gwener 1 Medi), bu i’r Crwner Cynorthwyol David Lewis gofnodi rheithfarn naratif, a ddaeth i’r casgliad mai nam ar ddrws y sychwr dillad Hotpoint oedd yn debygol o fod wedi achosi’r tân. Penderfynodd mai dyma oedd y theori fwyaf tebygol ar ôl gwrando ar y sawl theori gan gyfuniad o arbenigwyr.

Bu farw Bernard Hender, 19, yn y fan a’r lle yn ystod y tân yn y fflat uwch ben siop y Trefnwr Angladdau yn Sgwâr Ancaster, Llanrwst a bu farw Douglas McTavish, 39, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r fflat ar y llawr cyntaf am 06.30 o’r gloch, gan gynnwys pum injan dân o Lanrwst, Conwy, Bae Colwyn a Llandudno ynghyd â’r peiriant cyrraedd yn uchel o’r Rhyl.

Llwyddodd dyn arall, Gary Lloyd Jones, 48, i ddianc o’r digwyddiad ond roedd wedi anadlu mwg.

Wedi’r digwyddiad cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru a darganfuwyd bod y tân wedi ei achosi gan y sychwr dillad. Daeth ymchwiliadau pellach a gynhaliwyd drwy apwyntiad arbennig gan gwmni yswiriant i’r casgliad bod nam posib ar y sychwr dillad.   

Dyma oedd gan Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w ddweud wedi’r cwest: “Yn gyntaf, hoffem, unwaith eto,  fynegi ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r rhai a fu farw yn ystod y digwyddiad trasig hwn. Yn drist iawn, mae’r digwyddiad yn dangos bod tân yn gallu digwydd i unrhyw un, unrhyw bryd.

“Mae canlyniad y cwest heddiw wedi amlygu pryder ynglŷn â pheryglon peiriannau sychu dillad.

“Dengys ein hystadegau ni ein bod ni’n cael ein galw at danau yn ymwneud â pheiriannau sychu dillad rhwng 2 a 3 gwaith y mis.

"Bu i’r cwest dynnu sylw at y ffaith bod y dystiolaeth  gan arbenigwyr fforensig yn awgrymu bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol mewn switsh ar ddrws y peiriant. 

"Ein cyngor i’r cyhoedd yw dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a chymryd y  rhagofalon syml isod i helpu i wneud yn siŵr bod peiriannau sychu dillad yn ddiogel;

 

  • PEIDIWCH â throi’r peiriant ymlaen cyn i chi fynd i’r gwely neu cyn gadael y tŷ
  • PEIDIWCH â gorlwytho’r peiriant
  • PEIDIWCH â rhoi’r amserydd ymlaen am gyfnod hir
  • GLANHEWCH y ffilter yn rheolaidd
  • GADEWCH i’r sychwr orffen neu dynnu’r dillad a’u gwasgaru er mwyn rhoi cyfle iddynt oeri
  • DIFFODDWCH y peiriant pan nad ydych yn ei ddefnyddio – diffoddwch yr amserydd

 

 

“A hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod gennych larwm mwg. Nid oedd larymau mwg yn yr eiddo yn Llanrwst – dro ar ôl tro rydym yn gweld sut y gall gosod larwm mwg olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw mewn achos o dân. Fe all larwm mwg roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999 am gymorth.  Am archwiliad diogelwch cartref ffoniwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Yn dilyn y cwest heddiw, bydd cyfnod ohebu o 14 diwrnod i unrhyw un â diddordeb ar ba un ai y dylai’r crwner gyflwyno adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol.  Bydd y crwner hefyd yn ysgrifennu at Whirlpool ynglŷn â’i bryderon ynghylch ymateb y cwmni i’r dystiolaeth a gasglwyd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen