Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio dewis eang o brentisiaethau tân ac achub

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ehangu ei gyfleoedd prentisiaeth.

Mae’r Gwasanaeth wedi ymrwymo i gyfres o Raglenni Prentisiaeth sydd ar gael i bobl ifanc sydd gan ddiddordeb mewn dod yn aelodau o’r gwasanaeth tân ac achub yn y dyfodol. 

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gwneud mwy na diffodd tanau yn unig – mae dewis eang o raglenni prentisiaeth achrededig ar gael dros gyfnodau gwahanol mewn adrannau amrywiol.

Meddai Chris Nott, Uwch Reolwr Hyfforddiant a Datblygiad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Bydd y prentisiaethau hyn yn dysgu sut i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o amddiffyn cymunedau yng Ngogledd Cymru, trwy ddarparu pob math o gefnogaeth sy’n cynnwys ymateb ac amddiffyn, darparu rhaglenni diogelwch cymunedol, sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch tân, helpu i hybu ymgyrchoedd diogelwch tân, yn ogystal â sicrhau bod cerbydau’r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn.

“Dyma’r tro cyntaf i ni ehangu’r rhaglen brentisiaeth i adrannau a disgyblaethau mor eang. 

“Mae’r hyfforddiant yn meithrin sgiliau ymarferol a theori sydd yn galluogi i’r prentisiaid chwarae rôl hanfodol gyda ni. Maent yn cael eu hyfforddi a’u mentora yn barhaus ac maent hefyd yn cael eu hasesu’n rheolaidd. 

“Mae’r rhaglenni’n rhan bwysig o’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol wrth i ni gynllunio i baratoi ar gyfer yr heriau o’n blaenau a chwilio am ffyrdd o addasu i gyd-fynd â’r newidiadau sy’n digwydd o’n cwmpas.

“Mae prentisiaethau modern yn ffurfio rhan allweddol o’r strategaeth gyflogi genedlaethol ac rydym yn falch o gynnig y gefnogaeth yma i bobl ifanc.”

Eleni cynigir Rhaglenni Prentisiaeth yn y meysydd diffodd tân, cyfathrebu corfforaethol, diogelwch cymunedol, diogelwch tân i fusnesau a chynnal a  chadw cerbydau.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein swyddi gwag ar gael yn www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen