Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llosgi’ch Dyfodol – lansio ffilm i atal tanau bwriadol yn Wrecsam

Postiwyd

Y mae ffilm sydd yn amlygu canlyniadau cynnau tanau yn fwriadol wedi cael ei lansio yn Wrecsam.

Cafodd y DVD dwyieithog, Llosgi’ch Dyfodol, ei gomisiynu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o ymgyrch parhaus i addysgu pobl ynglŷn â pheryglon cynnau tanau yn fwriadol.

Ers nifer o flynyddoedd mae Wrecsam wedi dioddef nifer anghymesur o danau bwriadol o gymharu â rhannau eraill o Ogledd Cymru a gweddill Cymru.

 

Mae grŵp aml-asiantaeth yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a’r gymuned, wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall y problemau a datblygu atebion cynaliadwy gyda’r nod o atal tanau bwriadol yn y dyfodol.

Rhyddhawyd fersiwn byr o’r ffilm yn y cyfryngau cymdeithasol cyn Noson Tân Gwyllt y llynedd, ond cafodd y ffilm lawn ei lansio yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt ar 17 Chwefror. Bydd y ffilm nawr yn cael ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ehangach gan gynnwys ysgolion a chlybiau ieuenctid.

Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda phobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol, dioddefwyr lleol yn ardal Parc Caia a dynes sydd wedi dioddef llosgiadau difrifol, yn ogystal â swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Debyniodd y prosiect i gymhychu’r ffilm nawdd gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Heddlu Gogledd Cymru.Mae’r nawdd hefyd wedi galluogi i’r bartneriaeth ddatblygu mentrau eraill yn cynnwys ymgyrch Crimestoppers yn y cyfryngau i annog y gymuned i rannau gwybodaeth gyda’r heddlu yn ddienw a chynhyrchiad theatr addysgol a rhyngweithiol gan “Cat’s Paw Theatre” ar gyfer ysgolion, grwpiau ieuenctid a sefydliadau addysgol eraill.

Meddai’r Uwch-arolygydd Sian Beck o Heddlu Gogledd Cymru; “Mae gwaith sylweddol eisoes yn cael ei gyflawni ac mae nifer o raglenni ataliol ar waith gan bartneriaid. Dyma ffilm a gynhyrchwyd yn lleol, sydd yn cynnwys y gymuned leol ac a fydd yn cael ei harddangos mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid gan Heddlu Gogledd Cymru/Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

“Mae’n ffilm drawiadol sydd yn peri i rywun feddwl ac fe fydd yn addysgu drwy gynyddu ymwybyddiaeth yr unigolyn ynglŷn â thanau bwriadol. Cafodd y teitl “Llosgi Eich Dyfodol” ei ddewis fel rhan o gystadleuaeth gyhoeddus yn y cyfryngau cymdeithasol.”

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; “Mae’r ffilm yn amlygu’r effaith y mae tanau bwriadol yn ei gael ar gymunedau, ac rydym yn gobeithio y bydd yn peri i bobl feddwl am y broblem a pham bod yn rhaid i ni fynd i’r afael ag achosion o danau bwriadol unwaith ac am byth.

“Rydym yn defnyddio nifer o astudiaethau achos a chafodd ei ffilmio a’i golygu yn ardal Wrecsam, ac felly mae naws leol iddi.

“Mae canlyniadau i danau bwriadol - ar gyfer y drwgweithredwr, ein cymunedau a’n gwasanaethau brys. Rydym yn gobeithio y bydd y ffilm yn helpu i bwysleisio’r neges yma a’n helpu i fynd i’r afael â’r broblem o gynnau tanau yn fwriadol yn ardal Wrecsam.”

 

Meddai Hugh Jones, Cynghorydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Arweinydd dros Gymunedau a Phartneriaethau: “Mae Tanau bwriadol yn difetha ein cymunedau ac mae’n faich annheg ar drigolion sydd yn colli cyfleustodau cyhoeddus neu eiddo preifat o ganlyniad.

 

“Mae partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’n cymunedau yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r broblem cyn iddo ddechrau, ac atgoffa pawb ynglŷn â’r effaith y mae tanau bwriadol yn eu cael - fel y nodwyd, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem unwaith ac am byth.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen