Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch trydanol yn dilyn tân yn Johnstown

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân yn ymwneud â gwefrwr e-sigarét yn Johnstown y bore yma.

Cafodd diffoddwyr tân o Johnstown a Wrecsam eu galw at dân mewn eiddo yn Heol Kenyon, Johnstown am 5.31o’r gloch y bore yma (Dydd Llun 6ed Tachwedd) ac fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddelio gyda’r tân a achosodd ddifrod tân i soffa a difrod tân cymedrol yn ogystal â difrod mwg sylweddol i’r lolfa.   

Credir bod y tân wedi ei achosi gan e-sigarét a oedd yn gwefru ar y soffa. 

Meddai Jâmi Jennings o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon tanau trydanol – fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. 

“Peidiwch byth â gadael eitemau’n gwefru neu heb neb i gadw llygaid arnynt am gyfnod hir – a gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd plwg y gwefrydd hyd yn oed pan nad ydi o wedi ei gysylltu i’r e-sigarét/eitem drydanol.  Peidiwch byth â defnyddio gwefrydd ar wahân i’r un a ddaeth gyda’r cyfarpar.   

“Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydanol a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwefru eitemau ar arwynebedd caled megis bwrdd neu gabinet.

“Ein cyngor yw byddwch yn barod rhag tân, drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc i’ch galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gynted â phosib. 

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • PEIDIWCH Â gorlwytho socedi gyda phlygiau
  • ARCHWILIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio
  • TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
  • DATODWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio

 “Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.ukk – cewch wybod os ydych yn gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen