Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid

Postiwyd

Mae’r Gwasanaeth yn amlygu peryglon Carbon Monocsid fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid (18 Tachwedd – 25 Tachwedd).

 

Mae partneriaeth waith rhwng Wales & West Utilities a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl. 

 

Mae Wales & West Utilities, y gwasanaeth argyfyngau nwy a phiblinellau ledled gogledd Cymru, wedi atgyfnerthu ei berthynas gyda’r gwasanaeth tân ac achub yn lleol ac maent bellach yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth y maent yn ei gynnig.

 

Fel rhai o’i archwiliadau ‘Diogel ac Iach’, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth allweddol ar sut i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel rhag y lladdwr tawel, carbon monocsid. Bydd y gwasanaeth tân ac achub hefyd yn gallu rhannu gwybodaeth yn ystod ei ymweliadau am y cynlluniau eraill sydd gan Wales & West Utilities ar waith ar draws y rhanbarth i helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen, gan gynnwys cofrestru pobl ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth, eu cysylltu i’r rhwydwaith nwy drwy’r cynllun Cymorth Cartrefi Cynnes a gosod falfiau Ynysu Nwy i helpu pobl hŷn gadw’n ddiogel yn eu cartrefi yn hirach.

 

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: 

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda  Wales and West Utilities i helpu i sicrhau bod pobl yn meddu ar yr wybodaeth gywir  i’w cadw’n ddiogel rhag peryglon carbon monocsid.

"Fe all gwenwyd carbon monocsid ladd neu achosi niwed parhaol i’ch iechyd.

"Mae CO yn cael ei gynhyrchu pan nad ydi tanwydd carbon monocsid yn llosgi’n iawn – does ganddo ddim arogl nab las ac , os oes llawer o wenwyn yn bresennol, fe all ladd yn gyflym iawn.

"Drwy wneud yn siŵr bod cyfarpar sydd yn llosgi tanwydd a sicrhau bod y ffliwiau cysylltiedig  yn cael eu cynnal a’u cadw a’u gwasanaethu’n iawn ac yn unol â chyfarwyddiau’r gwneuthurwr a thrwy osod larwm CO clywadwy, gallwch helpu i amddiffyn eich hun a’ch teulu rhag peryglon carbon monocsid."

 

Meddai Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu yn Wales & West Utilities: 

“Fel busnes sydd yn seiliedig ar werthoedd, rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i rannu ein ffordd o wneud pethau ac ein blaenoriaeth yw gwasanaeth cwsmer a diogelwch, felly rydym yn falch o gael gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

“Yn ddiweddar fe wnaethom ni gyrraedd y Safon Brydeinig 18477 am ein gwaith yn cefnogi cwsmeriaid bregus ond mae bob amser fwy y gallwn ni ei wneud, ac mae partneriaethau yn allweddol i’n helpu i ddarparu gwasanaeth i’r rhai hynny sydd ein hangen ni fwyaf ledled y cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen