Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Agor Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân Wrecsam yn swyddogol

Postiwyd

Agorwyd y Ganolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân (AFSRC) newydd a modern yn Wrecsam heddiw.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno i fuddsoddi dros £15 miliwn yn y cyfleuster hwn a gafodd ei agor yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething AC, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, AC.

 

Mae’r AFSRC yn adeilad pwrpasol, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n cynnwys gorsaf dân wyth bae, gorsaf ambiwlans chwe bae, cyfleuster ymbaratoi a gweithdy ar gyfer y fflyd yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi modern iawn. 

Mae’r criwiau wedi bod yn ymateb i ddigwyddiadau o’r safle ar Ffordd Croesnewydd ers fis Ebrill, ond heddiw oedd y dadorchuddiad swyddogol.

 

Meddai Mr Gething:  “Rwyf wrth fy modd o gael agor y ganolfan yma’n ffurfiol. Rydym wedi buddsoddi £8.4 miliwn o nawdd gan Lywodraeth Cymru yn y ganolfan hon fel y gall gweithwyr proffesiynol o’r gwasanaeth tân ac ambiwlans gydweithio i wella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. 

“Mae’n wych gweld y ganolfan ar waith ac yn gwasanaethu pobl Wrecsam a’r cyffiniau. 

 

“Rydym am adeiladu ar bartneriaethau o’r fath i ddatblygu rôl y diffoddwr tân ymhellach i gefnogi’r GIG.

“Mae hyn yn cynnwys helpu i leihau peryglon yn y cartref, rhannu negeseuon diogelwch ac ymateb i rai argyfyngau meddygol yn uniongyrchol.”

 

Fe ychwanegodd Mr Sargeant:  “Mae’r ganolfan yn enghraifft wych o’r hyn y gall gwasanaethau cyhoeddus ei gyflawni wrth gydweithio. 


“Mae gan y gwasanaethau tân ac ambiwlans lawer yn gyffredin, ac yn aml iawn mae’r ddau wasanaeth yn cael ei anfon i’r un argyfwng  lle mae bywydau yn y fantol.

“Maent yn ymwybodol o’r hyn sy’n angenrheidiol i achub bywydau, a sut gallant helpu ei gilydd i wneud hynny. 

“Drwy eu lleoli o dan yr un to gallant rannu arbenigedd a phrofiad i wneud y mwyaf o’r hyn sydd yn debyg  rhyngddynt er mwyn cadw pobl a chymunedau yn ddiogel.


“Mae’r ganolfan yn rhan o’n gweledigaeth i sefydlu perthynas waith agosach rhwng y gwasanaethau tân ac ambiwlans. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o flaenoriaethau syml a fydd yn ein helpu i ganolbwyntio’r gwaith hwn ar feysydd  a fydd yn cynnig y buddion mwyaf o ran iechyd, gan adeiladu ar sgiliau cyfredol y diffoddwr tân ar yr un pryd.”


Mae’r AFSRC yn cymryd lle’r hen orsaf dân ar Ffordd Bradley yn Wrecsam, a’r hen orsafoedd ambiwlans yn y Waun a Wrecsam.

 

Mae’r orsaf ambiwlans yn cynnwys gweithdy ar gyfer y fflyd, cyfleuster ymbaratoi, garej chwe bae, swyddfeydd ar gyfer staff y fflyd a rheolwyr, ystafell friffio a man ymgynnull i staff ymateb.

Mae’r adnoddau tân yn cynnwys swyddfa diogelwch cymunedol leol, garej wyth bae, campfa, tŷ a thŵr hyfforddi o’r radd flaenaf ac ardal hyfforddi gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd. 

 

Mae’r ddau wasanaeth yn rhannu cyfleusterau megis ystafelloedd gorffwys, ystafell fwyta, prif swyddfa, ystafell loceri ac ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi.

 

Meddai Mick Giannasi, Cadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod gennym nid un ond dau Ysgrifennydd Cabinet yma i ddadorchuddio’r cyfleuster newydd hwn y mae’n criwiau wedi cael cymryd mantais ohono ers fis Ebrill.

 

“Mae’r datblygiad hwn yn darparu’r math o wasanaethau modern a newydd y mae ein criwiau yn eu haeddu, ac felly mae’n gwella’r gwasanaeth yr ydym ni’n ei ddarparu i bobl yn ardal Wrecsam a’r cyffiniau. 

“Y mae hefyd yn rhoi cyfle perffaith i ni weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân. Mae perthynas waith rhagorol eisoes yn bodoli rhyngom ac rydym yn mynychu nifer o ddigwyddiadau gyda’n gilydd.” 

 

Dyma oedd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, i’w ddweud wrth groesawu pawb i’r ganolfan ar y diwrnod: “Drwy weithio oddi ar un safle fe allwn gydlynu’n well wrth ymateb i ddigwyddiadau a gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael er lles y ddau sefydliad. 

 

“Mae’r ganolfan adnoddau yn darparu cyfleusterau gwell i’n staff a gwasanaeth gwell i’r bobl leol. 

 

“Mae staff o’r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ers nifer o fisoedd bellach.

 

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cyfle i ddathlu agoriad swyddogol y cyfleuster cyffrous hwn a diwedd y gwaith  o gynllunio, adeiladu a datblygu’r ganolfan.”

 

Cafodd y cyfleuster ei adeiladu gan BAM Construction dros gyfnod o 18 mis.

 

Meddai Ged Flanagan, Cyfarwyddwr Adeiladu BAM: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi adeiladu’r cyfleuster ar y cyd cyntaf yng Nghymru ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân ac rydym yn falch iawn o glywed ei fod yn bodloni anghenion y criwiau ambiwlans a thân i’w galluogi i ddarparu gwasanaeth gwych i bobl yn Wrecsam.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen