Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi trydydd cam yr ymgyrch i recriwtio diffoddwyr tân rhan amser

Postiwyd

Heddiw mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio trydydd cam yr ymgyrch i recriwtio  diffoddwyr tân y System Dyletswydd Rhan Amser  (RDS) i helpu i amddiffyn cymunedau ar draws y rhanbarth.                   

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn dymuno recriwtio diffoddwyr tân rhan amser mewn nifer o leoliadau ac mae’n awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân ar alwad yn eu gorsaf leol .

Esboniodd Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: “Mae diffoddwyr tân rhan amser yn darparu gwasanaeth tân a brys hanfodol yn ardal eu gorsaf dân hwy. Rydym yn chwilio am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, sy’n medru teithio i’w gorsaf dân leol o fewn pum munud o gael eu galw allan. Yn ystod y trydydd cam o’r ymgyrch byddwn yn rhoi cyfle i’r rhai hynny a fethodd yng ngham un a cham dau i ymgeisio eto.

"Mae’n diffoddwyr tân RDS yn cynrychioli pobl o grwpiau amrywiol ac maent yn cynnwys adeiladwyr, siopwyr, nyrsys, gweithwyr ffatri, rhieni yn y cartref neu bobl sy’n gweithio o’r cartref yn ystod oriau gwaith, ond gofynnwn hefyd bod diffoddwyr tân rhan amser ar gael i fynychu digwyddiadau argyfwng pan fo angen.

“Mae’n diffoddwyr tân RDS yn staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda, gyda sgiliau rhagorol, yn achub bywydau ac eiddo rhag tân. Mae diffoddwyr tân rhan amser yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol mewn damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, pan fydd cemegau yn arllwys, mewn llifogydd, tanau mewn coedwigoedd, gweundir ac ar fynyddoedd, a damweiniau amaethyddol.

"Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwdfrydig, yn gorfforol ffit ac sy’n medru dangos synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad – rydym yn awyddus i recriwtio rhai sy’n cynrychioli’r gymuned amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.

“Rydym yn darparu timau agos, wedi eu hyfforddi’n rhagorol, sy’n gweithio gydag offer modern, technoleg uwch. Bydd y rhai a benodir hefyd yn gwneud y gwaith atal tân rydym yn ei wneud i rwystro tanau rhag digwydd yn ein cymuned.”

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddiddordeb mewn clywed gan unigolion o bob cwr o  Gogledd Cymru.”

Mae’n bosib cofrestru ar lein ar gyfer y cyfleoedd hyn rhwng hanner dydd Ddydd Mawrth 4ydd Hydref 2016  a hanner dydd Ddydd Mawrth 15fed Tachwedd 2016 drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk

I gael gwybod mwy – yn ystod mis Hydref bydd pob gorsaf dân yng Ngogledd Cymru yn cynnal nosweithiau agored ar y dyddiadau a nodir isod;

 

Gorsaf Dân

Amser a Diwrnod

 

Dyddiad

Llandudno

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

5/10/16

Bae Colwyn

18.30 - 21.30   DYDD LLUN

10/10/16

Y Rhyl

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

11/10/16

Abergele

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

4/10/16

Betws Y Coed

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

5/10/16

Conwy

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

12/10/16

Dinbych

19.00 - 21.30  DYDD MAWRTH

18/10/16

Llanrwst

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

11/10/16

Prestatyn

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

4/10/16

Rhuthun

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

11/10/16

Llanelwy

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

18/10/16

 

Wrecsam

18.45 - 21.45  DYDD MAWRTH

11/10/16

Glannau Dyfrdwy

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

Cerrigydrudion

19.00 - 22.00  DYDD MAWRTH

11/10/16

Corwen

18.30 - 21.30 DYDD LLUN

17/10/16

Llangollen

18.00 - 21.00  DYDD MAWRTH

11/10/16

Bwcle

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

Y Waun

18.00 - 21.00  DYDD MAWRTH

18/10/16

Fflint

18.00 - 21.00  DYDD MAWRTH

18/10/16

Treffynnon

19.00 - 22.00  DYDD MAWRTH

4/10/16

Johnstown

18.00 - 21.00  DYDD MAWRTH

18/10/16

Yr Wyddgrug

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

10/10/16

 

Caernarfon

18.15 - 21.15  DYDD MERCHER

12/10/16

Bangor

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

Caergybi

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

5/10/16

Amlwch

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

5/10/16

Biwmares

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

19/10/16

Benllech

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

Llanberis

18.00 - 21.00  DYDD MERCHER

12/10/16

Llangefni

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

12/10/16

Porthaethwy

18.00 - 21.00  DYDD LLUN

17/10/16

Rhosneigr

18.30 - 21.30  DYDD MERCHER

5/10/16

Llanfairfechan

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

 

Dolgellau

18.30 - 21.30  DYDD IAU

6/10/16

Aberdyfi

18.30 - 21.30  DYDD IAU

13/10/16

Abersoch

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

18/10/16

Y Bala

18.00 - 21.00  DYDD IAU

13/10/16

Y Bermo

18.39 - 21.30  DYDD IAU

13/10/16

Blaenau Ffestiniog

18.15 - 21.15  DYDD MAWRTH

11/10/16

Harlech

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

18/10/16

Nefyn

18.30 - 21.30  DYDD MAWRTH

4/10/16

Porthmadog

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

10/10/16

Pwllheli

18.30 - 21.30  DYDD LLUN

17/10/16

Tywyn

18.30 - 21.30  DYDD IAU

6/10/16

 

Cynhelir Diwrnod Gweithredu Positif Ddydd Mercher 19 Hydref yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl i annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y Gwasanaeth, yn enwedig merched, cymunedau pobl dduon a  lleiafrifoedd ethnig a phobl o’r gymuned LGBT.

Mae llefydd yn brif felly mae’n rhaid archebu lle – cysylltwch â Chelsey Hughes ar 01745 535278/ chelsey.hughes@gwastan-gogcymru.org.uk

Am becyn cais a rhagor o fanylion ar y cyfle i gael gyrfa fel diffoddwr tân rhan amser yng Ngogledd Cymru, ewch i www.gwastan-cymru.org.uk

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu HRDesk@nwales-fireservice.org.uk

Edrychwch ar ein fideo sy’n hyrwyddo’r ymgyrch recriwtio yma.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf. Rhaid bod ganddynt safon dda o ffitrwydd corfforol a’r gallu i lwyddo mewn profion gallu. Yn ychwanegol at y ffioedd misol a delir, gwneir taliadau hefyd am droi allan, mynychu digwyddiad a nosweithiau ymarfer.

Mae llawer o gyflogwyr yn ymwybodol o’r rôl hanfodol y mae staff gwasanaeth tân ac achub rhan amser yn ei chyflawni yn eu cymunedau lleol ac mae llawer yn rhyddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd tân ac argyfyngau eraill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen