Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Colli cemegau ar yr A55

Postiwyd

Mae criwiau tân o Fae Colwyn, Bangor, Abergele a Wrecsam yn bresennol mewn digwyddiad lle mae cemegau wedi arllwys ar yr A55.

 

Derbyniodd ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad am 10.48am fore heddiw (Dydd Mawrth 22ain Mawrth) yn adrodd bod cemeg wedi arllwys o gerbyd ar yr A55 i'r gorllewin, rhwng cyffordd 21 a chyffordd 22.

 

Mae peiriannau tân o Fae Colwyn Bay, Abergele, Bangor a Wrecsam, yr uned ymateb i ddigwyddiad a'r uned amddiffyn yr amgylchedd yn bresennol yn y digwyddiad.


Mae'r A55 wedi cau yn y ddau gyfeiriad a chynghorir y cyhoedd i ddefnyddio llwybrau gwahanol wrth i'r gwasanaethau argyfwng gael rheolaeth ar y digwyddiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen