Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffibrilwyr yn cael eu gosod wrth galon cymunedau Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae diffibrilwyr achub bywyd yn cael eu gosod mewn gorsafoedd tân ledled Gogledd Cymru.

Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y peiriannau ar gael mewn cypyrddau amlwg a osodir y tu allan i safleoedd gorsafoedd tân, lle gall aelodau o'r cyhoedd gael mynediad iddynt ar unwaith os oes rhywun yn yr ardal yn dioddef ataliad ar y galon.

Bydd y diffibrilwyr cyntaf yn cael eu gosod mewn gorsafoedd tân dros yr wythnosau nesaf.

Mae diffibrilwyr modern yn darparu cyfarwyddiadau gweithredu llafar fesul cam, ac ni wnânt gyflenwi sioc oni bai bod y claf yn dioddef ataliad ar y galon - ac felly sicrheir nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y sefyllfaoedd anghywir.

Gyda thriniaeth gyflym yn hanfodol i'r siawns o oroesi, gallai'r diffibrilwyr hyn olygu'n llythrennol y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i ddioddefwyr ataliad ar y galon.

Meddai'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Richard Fairhead: "Mae Llywodraeth Cymru a phob gwasanaeth cyhoeddus wedi ymrwymo i wella ansawdd ein gwasanaethau. Rydym eisoes yn cymryd rhan mewn cynllun peilot gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n anelu at weithio gyda'n gilydd i achub bywydau, lle gall aelodau o'r cyhoedd sy'n byw o fewn ardaloedd penodol ac sydd angen cymorth meddygol brys dderbyn ymateb gan bersonél y gwasanaeth tân ac achub lleol.

 

"Mae gosod diffibrilwyr achub bywydau ym mhob un o'n gorsafoedd tân yn cael ei weld fel estyniad o'r ymrwymiad hwn. Yn ystod ataliad ar y galon, mae bob munud sy'n mynd heibio heb ddiffibrilio yn golygu fod siawns y claf o oroesi yn gostwng tua 10 y cant - maent yn gwbl hanfodol yn y gadwyn oroesi.

"Mae'r fenter hon yn helpu i roi diffibrilwyr mewn mannau lle maent fwyaf eu hangen, a bydd yn sicr yn achub bywydau."

Meddai Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Meirick Davies: "Yn syml, mae diffibrilwyr yn achub bywydau ac mae eu gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd mewn gorsafoedd tân yn rhoi galluoedd achub bywyd yn nwylo pawb.

"Mae gwasanaeth tân ac achub modern yn gwneud llawer mwy na diffodd tanau a mynychu damweiniau ffyrdd - rydym yn ymrwymedig i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel, ac mae gosod diffibrilwyr yn tynnu sylw at yr  ymrwymiad hwnnw." 

Dywedodd Jason Williams, Swyddog Ymatebwyr Cyntaf Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth tân ac achub yn hyfforddi staff  y gwasanaeth tân gyda'r nod o ddarparu ymateb Cyd-Ymatebwyr i ddigwyddiadau brys priodol. Rydym yn hapus iawn i gweld y gefnogaeth glir y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cymunedau a mae gosod y diffibrilwyr hyn yn estyniad pellach o'r ddarparu gofa hynnyl. Mae'r ffaith eu bod yn cael eu gwneud ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol yn siwr o arbed mwy o fywydau a rydym yn diolch i'r gwasanaeth tân ac achub am eu gwaith."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen