Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r ymgyrch ‘Profwch eich larwm!’ yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Postiwyd

‘Profwch eich larwm!’ yw’r neges gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru’r wythnos hon. 

Mae staff o’r tri Gwasanaeth wedi bod yn gweithio’n galed i helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod sut i atal tanau rhag cynnau, ac amlygu mai gosod larwm mwg gweithredol yw’r ffordd orau i amddiffyn eich hun rhag ofn y cewch dân yn y cartref. 

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer o drigolion yng Nghymru yn dal i fod heb larwm mwg – yn achos tri o bob deg o danau mewn anheddau yng Nghymru, doedd dim larwm mwg yn bresennol.

Meddai Stuart Millington o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  “Nod yr ymgyrch ‘Profwch eich Larwm!’ yw gwneud yn siŵr bod pobl yn profi eu larymau mwg yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio. 

“Dro ar ôl tro mae diffoddwyr tân yn gweld sut y gallai larwm mwg achub eich bywyd mewn achos o dân.”

Fe ychwanegodd Mydrian Harries, Pennaeth Corfforaethol Atal ac Amddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Yn ein profiad ni, mae’r bobl hynny sy’n marw mewn tân yn y cartref yn cysgu ar adeg y tân. Fe all larwm mwg eich deffro a rhoi cyfle i chi fynd allan a galw am gymorth. 

“A nawr, ar drothwy’r Nadolig, yw’r amser i atgoffa pobl ynglŷn â phwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref , gan  fod achosion yn cynyddu’n sylweddol ar yr adeg yma o’r flwyddyn. A pheidiwch ag anghofio am eich ffrindiau a’ch perthnasau bregus, gwnewch yn siŵr bod ganddynt hwythau hefyd larymau mwg gweithredol.”

Meddai Matthew Jones, pennaeth Diogelwch yn y Cartref, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Does dim esgus dros beidio â chael larwm mwg - gallwch drefnu Archwiliad Diogelwch yn y Cartref gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i gael cyngor, a all hefyd gynnwys gosod larwm mwg newydd yn rhad ac am ddim - galwch ni ar  0800 069 1234.

“Cadw cymunedau’n ddiogel yw ein prif flaenoriaeth a sicrhau bod gan bob cartref larwm mwg gweithredol sydd yn cael ei brofi’n rheolaidd. Drwy brofi larymau mwg yn wythnosol fe all preswylwyr a’u teuluoedd aros yn ddiogel rhag tân.”

Dilynwch y cyngor isod i wneud yn siŵr bod eich larwm mwg yn rhoi’r cyfle gorau posib i chi fynd allan yn ddiogel mewn achos o dân; 

  • Profwch eich larwm yn rheolaidd - rydym yn argymell unwaith yr wythnos. Dilynwch #DyddMawrthProfi
  • Peidiwch byth â thynnu’r batri oni bai eich bod yn ei newid
  • Peidiwch â’i dynnu i lawr, ei roi mewn drôr ac anghofio amdano – byddwch yn synnu faint o bobl sydd yn gwneud hyn
  • Os nad ydi o’n gweithio neu os ydi’r larwm yn blipio - cysylltwch â ni i gael un newydd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer eich cynllun dianc rhag ofn i’r larwm seinio rhybudd.
  • Mae’n rhaid i chi brofi larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad trydan yn ogystal - mae ganddynt fatri wrth gefn rhag ofn bod toriad pŵer. 
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen