Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Llangefni

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wrthi’n delio gyda thân mewn adeilad yn Stryd yr Eglwys, Llangefni. Cafodd yr alwad ei derbyn am 10:03 y bore yma  (Dydd Mawrth, 11 Awst).

 Mae tri chriw yn bresennol yn ogystal â Pheiriant Cyrraedd yn uchel.

 Mae’r diffoddwyr tân yn defnyddio 3 pibell dro, ac un bibell ddŵr i geisio diffodd y tân. Mae’r adeilad yn wag ac nid oes unrhyw un wedi cael ei anafu. 

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gweithio’n galed i geisio atal y tân rhag lledaenu i’r siop ddodrefn drws nesaf, ac mae wrthi’n rhoi mesurau diogelwch ar waith i ddiogelu talcen yr adeilad.  Y mae hefyd yn ceisio atal dŵr tân rhag llifo i ddraeni cyfagos a hynny dan oruchwyliaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Diweddariad am 1400 o’r gloch

 

Mae’r tân bellach dan reolaeth ond mae staff y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r peiriannau yn dal i fod yn y fan a’r lle yn dilyn ymateb aml asiantaeth. 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar lethu’r safle ac y mae’n cydweithio gydag adran Rheolaeth Adeiladau’r Awdurdod Lleol i asesu strwythur yr adeilad gan ei fod wedi dioddef difrod tân  sylweddol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rheoli’r llif traffig a’r ffyrdd sydd ar gau.   Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu i asesu’r effeithiau posib ar yr amgylchedd gan fod dŵr tân wedi llifo i systemau draenio/afonydd ayb.  Fe ddefnyddiodd y criwiau tân bedair pibell ddŵr a thair pibell dro i daclo’r tân. Cafodd Peiriant Cyrraedd yn Uchel hefyd ei ddefnyddio fel tŵr dŵr. Roedd pum peiriant pwmpio, yr Uned Meistroli Digwyddiadau a’r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd hefyd yn bresennol.  

Llwyddodd y diffoddwyr tân i atal y tân rhag lledaenu’n sylweddol i’r siop ddodrefn drws nesaf  ac i leihau’r effaith gan y mwg a’r dŵr.  

Mae ymchwiliad i achos  y tân bellach ar y gweill

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen