Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn egluro sut mae ei orsafoedd tân rhan amser yn gweithio yn dilyn y digwyddiad yn Llangefni

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymateb i  bryderon a godwyd gan y cyhoedd a’r wasg yn dilyn y tân ar Stryd yr Eglwys, Llangefni heddiw (Dydd Mawrth 11 Awst),  drwy egluro sut y mae’r system ddyletswydd rhan amser yn gweithio yn y gobaith y bydd hyn yn tawelu meddyliau.

 

Meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead:

 

“Y mae llawer o sïon yn dilyn y digwyddiad yn Llangefni heddiw bod oedi wedi bod wrth anfon peiriannau tân i’r digwyddiad, gydag adroddiadau ei bod hi wedi cymryd dros hanner awr i’r peiriannau gyrraedd. 

 

“Mewn gwirionedd fe gymrodd hi 19 munud a 45 eiliad i’r injan dân gyntaf gyrraedd y tân o’r amser y derbyniodd ein hystafell reoli'r alwad 999 - nid yw hyn yn anghyffredin o ystyried ein bod yn wasanaeth tân ac achub gweledig sydd yn  gweithio dros ardal eang a bod y rhan fwyaf o’n staff gweithredol yn ddiffoddwyr tân rhan amser. 

 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i roi sicrwydd i bobl y Gogledd ein bod ni bob amser yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bawb sydd yn byw, ymweld a theithio ledled y rhanbarth.     

 

“Rydym yn gweithio ar sail strategol i wneud yn siŵr bod gorsafoedd tân allweddol ar gael i fynychu digwyddiadau. Mae ein gwaith yn rhannol yn golygu gwneud yn siŵr bod  gwasanaeth tân ar gael ar draws y rhanbarth drwy gydol yr amser, drwy reoli newidiadau

o ran argaeledd ein diffoddwyr tân. Mae’r rhan fwyaf o’n diffoddwyr tân yn ddiffoddwyr tân rhan amser sydd gan yrfaoedd ac ymrwymiadau eraill.  

 

“Yn y gorffennol mae gorsaf dân Llangefni wedi bod ar gael i fynychu digwyddiadau ac mae gan yr orsaf gofnod argaeledd ardderchog, er nad oedd yr injan ar gael i fynychu ar adeg y tân yn Stryd yr Eglwys heddiw. 

 

“Y gwir amdani yw y gall tân ddigwydd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg a’r her i ni o ddydd i ddydd yw gwneud yn siŵr bod modd i ni ddarparu ar gyfer yr hyn na allwn ni mo’i ddarogan er mwyn cadw pobl yng Ngogledd Cymru yn ddiogel.

 

“Heddiw fe anfonwyd peiriannau o orsafoedd eraill gan mai hwy oedd ar gael i ddarparu gwasanaeth yn yr ardal – mae’n bosib y gallai’r tân yma fod wedi digwydd mewn tref gyfagos ac y byddai Llangefni wedi bod ar gael i ymateb ar yr adeg. Neu senario arall yw y gallai injan dân Llangefni fod wedi bod allan yn delio gyda digwyddiad arall ar adeg y tân ac na fyddai, felly, wedi bod ar gael i fynychu’r tân ar Stryd yr Eglwys ac y byddai injan dân o orsaf gyfagos wedi cael ei hanfon i’r digwyddiad. 

 

“Rydym ni fel Gwasanaeth wedi cydnabod ers tro bod pen draw i allu’r system ddyletswydd rhan amser– rydym yn wynebu problemau o ddydd i ddydd oherwydd nad ydy’r system ddyletswydd hon bellach yn addas i’r diben a chan nad ydyw’n gweddu’n dda i’r heriau a wynebwn heddiw o ran cydbwysedd bywyd a gwaith.

 

“Rydym bob amser yn cadw llygaid barcud ar argaeledd ein diffoddwyr tân a hoffwn dawelu meddyliau pobl ar draws y Gogledd ein bod yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod digon o orsafoedd tân ar gael.   Fodd bynnag, rydym yn cyfaddef bod yna broblem ac fel Gwasanaeth rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth tân yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol a fydd yn gwneud i ffwrdd â’r system draddodiadol hon a gafodd ei mabwysiadu gan wasanaethau tân ac achub ledled y Deyrnas Unedig.  

“Roedd yr ymateb aml-asiantaeth a gafwyd i’r digwyddiad yn Llangefni heddiw yn gyflym ac effeithlon.  Llwyddodd y diffoddwyr tân i atal y tân rhag lledaenu i adeilad cyfagos a llwyddodd yr heddlu i reoli a dargyfeirio traffig wrth i ni ddelio gyda’r digwyddiad.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen